Llanrhychwyn
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.1405°N 3.8296°W ![]() |
Cod OS |
SH776619 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae Llanrhychwyn yn bentre bach a phlwyf ger Trefriw yn Sir Conwy. Mae hen eglwys yno, sef Eglwys Sant Rhychwyn. Mae'r plwyf yn eang ac yn cynnwys Betws-y-Coed. Yn ymyl y pentref ceir Coedwig Gwydyr. I'r de-orllewin gorwedd Llyn Geirionnydd.
Eglwys Llanrhychwyn[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl traddodiad roedd y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, yn blino ar deithio yr holl ffordd o'r llys yn Nhrefriw i eglwys Llanrhychwyn ac felly cododd Llywelyn eglwys newydd iddi yn Nhrefriw yn y flwyddyn 1220.
Mae'r eglwys yn hen. Dywedir iddi gael ei sefydlu gan Sant Rhychwyn. Roedd y sant yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad, ond ni wyddys dim arall amdano. Ceir llun dychmygol o Rychwyn gyda Dewi Sant yn eglwys Llanrwst. Ei wylmabsant yw 12 Gorffennaf.
Pobl o Lanrychwyn[golygu | golygu cod y dudalen]
- Robert Williams (Trebor Mai) (1830-1877). Ganed y bardd mewn bwthyn ger eglwys y plwyf a threuliodd ei blentyndod yn y pentref. Yn ddyn ifanc, symudodd i fyw a gweithio yn Llanrwst a daeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus ei ddydd, yn arbennig oherwydd ei ddawn i gyfansoddi englynion.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan