Penmachno
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.0333°N 3.8°W ![]() |
Cod OS |
SH790505 ![]() |
Cod post |
LL24 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Mae Penmachno yn bentref yn sir Conwy yng ngogledd Cymru. Saif ynghanol cwm Penmachno, 3 milltir (5 km) i'r ogledd-de o'r pentrefan Cwm Penmachno, a 4 milltir i'r de o Fetws-y-Coed, yng nghymuned Bro Machno. Llifa afon Machno trwy'r pentref.
Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed yr Esgob William Morgan (1545-1604) yn Nhŷ Mawr Wybrnant, heb fod ymhell o'r pentref. Mae'r tŷ yn awr yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gellir ymweld ag ef a gweld arddangosfa ar gyfieithu'r Beibl i'r iaith Gymraeg.
Yn eglwys Sant Tudclud yn y pentref mae pum carreg gerfiedig cynnar sy'n dyddio o Oes y Seintiau yn y bumed a'r 6g. Y bwysicaf o'r rhain yw carreg fedd o ddiwedd y 5g sy'n coffáu gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel hyn: Cantiorix hic iacit / Venedotis cives fuit / consobrinos Magli magistrati, neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "cives" a "magistratus" yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd Rhufeinig adael.
Cedwir yr eglwys ar glo bellach, ac i weld y cerrig rhaid gofyn am yr allwedd o dŷ cyfagos.
Pobl o Benmachno[golygu | golygu cod y dudalen]
- Richie Thomas, tenor; gweler - Rhestr o ganeuon a recordiwyd gan Richie Thomas
- yr Esgob William Morgan (1545-1604), cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg
- Owen Gethin Jones (1816-1883), llenor, hanesydd a saer
- George Amor (1991-heddiw) cerddor, cyfansoddwr cyfoes sy’n gyfrifol am prosiectau megis Omaloma a Serol Serol.
Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan