Penmaenmawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°16′12″N 3°55′41″W / 53.270°N 3.928°W / 53.270; -3.928

Penmaenmawr
From the Sands, Penmaenmawr, Wales-LCCN2001703536.jpg
Ffotograff o tua 1890-1900
Penmaenmawr is located in Cymru
Penmaenmawr

 Penmaenmawr yn: Cymru
Poblogaeth 4,353 (2011)
Cyfeirnod grid yr AO SH97176
Cymuned Penmaenmawr
Sir Conwy
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost PENMAENMAWR
Rhanbarth cod post LL34
Cod deialu 01492
Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Aberconwy
Cynulliad Cymru Aberconwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •
Erthygl am y dref o'r enw Penmaenmawr yw hon. Am y mynydd o'r un enw gweler Penmaen-mawr.
Penmaenmawr & Foel Lus - geograph.org.uk - 3153833.jpg

Mae Penmaenmawr yn dref ym mhlwyf Dwygyfylchi, yng ngogledd-orllewin Sir Conwy, gogledd Cymru, poblogaeth tua 4,000. Mae'n dref glan môr sydd wedi tyfu o gwmpas y chwarel, ond nid oes llawer o bobl yn gweithio yn y chwarel bellach. Mae'n sefyll ar arfordir y gogledd rhwng tref Conwy a Bangor, ar yr A55. Mae Caerdydd 205.4 km i ffwrdd o Penmaenmawr ac mae Llundain yn 325 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 14.8 km i ffwrdd.

Mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae iddi dri ward, pob un a'i gymeriad ei hun; Penmaenan yn y gorllewin, Pant-yr-afon yn y canol a phentref Dwygyfylchi yn y gorllewin.

Bu newid mawr yn sgîl creu'r lôn ddeuol newydd, yr "Expressway" (A55) yn y 1980au, pan gollodd y dref ran helaeth o'i phromenâd cyfnod Edwardaidd oedd yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond codwyd un newydd yn ei le. Mae Penmaenmawr yn nodedig am ei llwybrau cerdded ar y bryniau a'i golygfeydd hardd. Mae Bwlch Sychnant yn denu ymwelwyr.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa ar Bantyrafon, canol tref Penmaenmawr, o'r Gwddw Glas

Saif y dref ar lain o dir arfordirol tua 2 milltir o hyd a hanner milltir o led yn wynebu Bae Conwy a Môr Iwerddon i'r gogledd. Mae'r bae yn cael ei gysgodi gan bwynt de-ddwyreiniol Ynys Môn (Penmon) ac Ynys Seiriol yn y gogledd-orllewin a phenrhyn calchfaen Pen y Gogarth yn y gogledd-ddwyrain. Mae'r môr yn fas yma rhwng Traeth Lafan ac aber Afon Conwy. Mae'r traeth yn llydan, gyda rhag-draeth o gerrig mân crwn a llain eang o dywod melyn. Mae penmaen sylweddol yn gwahanu Penmaenmawr oddi wrth ei chymdogion. Yn y gorllewin saif talp anferth Penmaen-mawr ("Mynydd Penmaenmawr"), sy'n rhoi ei enw i'r dref, rhwng y dref a Llanfairfechan a'r gwastatir arfordirol ehangach sy'n ymestyn i gyffiniau Bangor. Yn y dwyrain mae creigiau syrth Penmaen-bach yn cyffwrdd y môr rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy. I gyfeiriad y de mae bwa o fryniau ac ucheldir yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin o Benmaen-bach i Benmaen-mawr, gan gychwyn gyda'r Alltwen uwchlaw Dwygyfylchi, ac yna Bwlch Sychnant (mae'r hen lôn yn croesi fan 'ma i Gonwy), Pen-sychnant, moel gron Foel Lus, Gwddw Glas ("Green Gorge" y twristiaid), Bryn Derwydd a blaenau Cwm Graiglwyd ac wedyn copa Penmaen-mawr ei hun. Mae Penmaenmawr yn goediog iawn a cheir hefyd ddigon o gaeau agored ar ymyl y dref. Mae Trwyn-yr-Wylfa, braich o'r Foel Lus, bron yn rhannu'r llain arfordirol yn ddau a hefyd yn dynodi'r ffîn rhwng Pant-yr-afon a Phenmaenan yn y gorllewin a'r "Hen Bentra'", sef Dwygyfylchi a Chapelulo, yn y dwyrain. Yn olaf mae dwy afon fach yn rhedeg trwy'r ardal i'r môr. Rhed y gyntaf, Afon Pabwyr, drwy lethrau coediog Cwm Graiglwyd ac yna dan ganol y dref, Pant-yr-afon, i'r prom a'r traeth; mae'r ail a'r fwyaf, Afon Gyrrach, yn rhedeg am o gwmpas 4 milltir o lethrau gogleddol Tal-y-Fan (2,001 troedfedd) i'r môr ar y traeth ger Penmaen-bach, gan basio trwy Nant Ddaear-y-llwynog (y "Fairy Glen") a'r "Hen Bentra'".

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Meini Hirion uwchben Penmaenmawr, gyda Tal-y-Fan yn y cefndir

Cyn-hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir olion nifer o henebion cyn-hanesyddol ar yr ucheldir uwchlaw'r dref, yn cynnwys gweddillion ffatri bwyeill o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd ger copa Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu hallforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Ychydig yn uwch i fyny mae'r Meini Hirion ("Druid's Circle") yn un o'r cylchoedd cerrig cyn-hanesyddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu. Ar un adeg roedd copa Penmaen-mawr 1,500 troedfedd uwchlaw lefel môr ond erbyn hyn mae gryn dipyn yn is oherwydd y cloddio yn y chwarel. Coronid y gopa gan Braich-y-Dinas, a oedd yn un o'r bryngaerau mwyaf yn Oes yr Haearn yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i Dre'r Ceiri yn ardal Trefor yn Llŷn; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.

Yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad, yn Oes y Seintiau roedd gan Sant Seiriol (fl. 6g efallai), yr enwir Ynys Seiriol ar ei ôl, gell meudwy yng Nghwm Graiglwyd. Mae eglwys ddiweddar St Seiriol yng nghanol y dref yn dwyn ei enw heddiw. Dywedir fod Seiriol yn fab i'r tywysog lleol Helig ap Glannog, arglwydd Tyno Helig. Eglwys gynharaf Sant Gwynin yn Nwygyfylchi yw eglwys y plwyf heddiw. Cysylltir Penmaenmawr â Sant Ulo hefyd; mae Capelulo wrth droed Bwlch Sychnant yn safle capel canoloesol, yn ôl traddodiad. O ddechrau'r Oesoedd Canol ymlaen mae'r plwyf wedi bod yn rhan o Arllechwedd Uchaf, ac mae'r hen gwmwd hwn sydd, ynghyd ag Arllechwedd Isaf, yn rhan o gantref Arllechwedd, yn dal i gael ei ddefnyddio gan yr eglwys fel uned weinyddol heddiw.

Tref chwarel a glan môr[golygu | golygu cod y dudalen]

Promenâd Penmaenmawr gyda'r hen jetis a llethrau'r chwarel yn y cefndir, tua 1910 (hen gerdyn post)

Dechreuwyd chwarelu ithfaen ar raddfa diwydiannol ym Mhenmaenmawr yn gynnar yn y 19g. Wrth i'r chwarel dyfu tyrrodd gweithwyr a'u teuluoedd i Benmaenmawr o bob cwr o ogledd-orllewin Cymru a thu hwnt. Roedd y cysylltiad â phentref Trefor, sydd hefyd yn gartref i chwarel gwenithfaen sylweddol ar lethrau Yr Eifl, yn arbennig o agos. Roedd y gymuned a ddaeth i fodolaeth yn wardiau presennol Penmaenan a Phant-yr-afon yn glos ac, yn naturiol, yn gyfangwbl Gymraeg ei hiaith. Erbyn blynyddoedd cynnar yr 20g gweithiai tua 1,000 o ddynion yn y chwarel a'r gweithdai yn perthyn iddi. Yr ochr arall i'r mynydd roedd Llanfairfechan hefyd yn rhan o'r datblygiadau hyn. Roedd bywyd ymhell o fod yn hawdd i'r chwarelwyr, yn arbennig felly y rhai a weithiai ar y llethrau uchaf. Disgwylid iddynt gerdded i fyny i gyffiniau'r gopa ar bob tywydd a thocwid eu cyflog pe na fedrent wneud hynny. Yn naturiol ddigon tyfodd ymdeimlad cryf o gymuned ac adlewyrchid hynny yn nghapeli, tafarnau a chymdeithasau niferus yr hen dref. Allforid cerrig ithfaen i borthladdoedd fel Lerpwl a dinasoedd Lloegr ar y rheilffordd ac hefyd ar y môr o ddau jeti'r chwarel i Lerpwl eto ac i nifer o borthladdoedd ar y cyfandir fel Hamburg yn ogystal.

Penmaenmawr heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Stryd Fawr Penmaenmawr (2006).
Ffordd Bangor, Penmaenmawr (2006).

Ysgolion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Ysgol Gynradd Pencae ar gyfer plant rhwng tri ac un ar ddeg oed. Mae'n ysgol cyfrwng Cymraeg.

Ceir yn ogystal Ysgol Capelulo, ysgol gynradd ar gyfer Dwygyfylchi. Mae'r ysgol hon yn dysgu trwy Saesneg yn bennaf ond yn gwneud defnydd sylweddol o'r Gymraeg.

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r A55 yn darparu mynediad i weddill arfordir y gogledd, ac mae ffordd fechan yn cysylltu'r dref â Chonwy dros Fwlch Sychnant. Mae gwasanaethau bws yn rhedeg i Fangor, Llangefni, Caernarfon a Llanberis tua'r gorllewin ac i Gonwy, Cyffordd Llandudno a Llandudno tua'r dwyrain.

Rheilffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru gyda gwasanaeth rheolaidd o orsaf reilffordd Penmaenmawr i Gaergybi a Chaer.

Cyfleusterau, clybiau a chymdeithasau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfleusterau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Amgueddfa Teios New York. Amgueddfa leol am y chwarel a'r pentre chwaryddol. Ffordd Bangor.[1]
  • Gerddi Plas Eden. Gerddi bach gyda llwybr i'r deillion. Hen Ffordd Conwy, ger canol y dref.
  • Lawnt Bowlio Penmaenmawr. Station Road, ar y ffordd i'r traeth.

Clybiau a chymdeithasau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Clwb Golff Penmaenmawr. Cwrs golff 9 twll a leolir ar Hen Ffordd Conwy, Dwygyfylchi. Un o'r rhai hynaf yng ngogledd Cymru.
  • Clwb Pêl Droed Pen Phoenix. Mae'r cae ar Ffordd Conwy ger trofan yr A55.

Traddodiadau Lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltir Penmaenmawr â chwedl Tyno Helig (Llys Helig), y dywedir iddo gael ei foddi gan y môr yn y 6ed ganrif. Yn ôl traddodiad lleol, dihangodd y goroeswyr i Drwyn-yr-Wylfa, braich o fryn Foel Lus rhwng Penmaenmawr a Dwygyfylchi.

Ceir hefyd hen rigwm:

Mae gen i iâr yn gori
Ar ben y Penmaen-mawr;
Mi es i droed yr Wyddfa
I alw hon i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd
A'i chywion gyda hi,
Hyd eitha tir Iwerddon,
Good morrow, John. How dee![2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Penmaenmawr (pob oed) (4,353)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Penmaenmawr) (1,425)
  
33.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Penmaenmawr) (2522)
  
57.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Penmaenmawr) (769)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cyngor Conwy; adalwyd 27 Awst 2013.
  2. Eluned Bebb, Hwiangerddi'r Wlad (Llyfrau'r Dryw, 1942), tud. 26. "Mae gen i iâr yn eistedd" yw'r amrywiad yn argraffiad Bebb, ond gori a geir yn y fersiwn lleol.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: