Clwb Golff Penmaenmawr
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | clwb golff, cwrs golff |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Lleolir Clwb Golff Penmaenmawr ym mhentref Dwygyfylchi, sy'n rhan o gymuned Penmaenmawr, yn Sir Conwy, Cymru. Mae cwrs golff 18 twll y clwb yn gorwedd ar bwys Hen Ffordd Conwy, sy'n cysylltu Penmaenmawr a Chonwy dros Fwlch Sychnant. Sefydlwyd y clwb yn 1910.
Agorwyd y clwb a'r cwrs - 9 twll yn wreiddiol - yn swyddogol ar 9 Mehefin 1910 gan y Cyrnol C. H. Darbishire. Gwahoddwyd David Lloyd George i'w agor ond bu rhaid iddo ddychwelyd o ogledd Cymru i Lundain yn annisgwyl.[1]
Mae adeilad y clwb yn llwyfan i ddigwyddiau cymdeithasol lleol megis cyngerddau, yn cynnwys nosweithiau Cymraeg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Penmaenmawr Golf Club Diamond Jubilee 1910-1970. Souvenir Brochure. (Llanfairfechan, 1970).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol (Saesneg)