Dwygyfylchi (pentref)
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.278°N 3.9°W ![]() |
Cod OS | SH736773 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
- Erthygl yw hon am bentref Dwygyfylchi: am y plwyf o'r un enw gweler Dwygyfylchi (plwyf).
Pentref yng nghymuned Penmaenmawr, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dwygyfylchi.[1][2] Mae'n gorwedd ger yr arfordir wrth droed Bwlch Sychnant gyda phentref Penmaenmawr i'r gorllewin a thref Conwy dros y bryniau i'r dwyrain. Mae'n un o wardiau tref Penmaenmawr ond yn cael ei gyfrif ar wahân fel pentref.
Enwir y pentref ar ôl y plwyf hanesyddol o'r un enw (gweler Dwygyfylchi (plwyf)). Ceir peth dryswch hyd yn oed yn lleol ynglŷn ag enw'r pentref. Capelulo, a enwir ar ôl y sant cynnar Ulo, oedd cnewyllyn hanesyddol y pentref, wrth droed Bwlch Sychnant, ond wrth i'r pentref dyfu yn is i lawr tua glan y môr o'r 18g ymlaen, mabwysiadwyd enw'r plwyf ar gyfer y pentref cyfan. Mae union ystyr yr enw yn ansicr. Mae'n deillio efallai o'r hen air dwy ('dwyfol' neu 'sanctaidd', hefyd 'duw' neu 'dduwies') a cyfylchi, gair Cymraeg Canol anghyffredin iawn sy'n golygu 'caer' efallai.
Mae'r pentref yn gorwedd yn hanner dwyreiniol y llecyn eang o dir isel rhwng mynydd y Penmaen-mawr i'r gorllewin a'r Penmaen-bach i'r dwyrain, gyda chaeau gwyrdd a chraig trawiadol Trwyn yr Wylfa yn ei gwahanu oddi ar gweddill Penmaenmawr. Gan fod y pentref chwarel a thref glan môr a dyfodd yn yr hanner gorllewinol yn ddiweddarach, cyfeirir at Ddwygyfylchi yn lleol fel "Yr Hen Bentref."
Eglwys Gwynin Sant yw eglwys y plwyf. Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei hailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16g sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19g. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.[3]
Cyfyd bryn Yr Alltwen, a goronir gan olion bryngaer, tu ôl i'r pentref, rhwng Penmaen-bach a Bwlch Sychnant. Mae lôn yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gorwedd rhwng y pentref a'r traeth tywodlyd, ond gellir croesi pont cerddwyr i'w gyrraedd.
Tyfodd y pentref yn gyflym yn yr 20g. Codwyd sawl ystad o dai cyngor ac ers hynny mae stadau eraill wedi eu codi hefyd.
Mae'r mwyafrif o blant ifanc y pentref yn mynychu Ysgol Capelulo.
Ceir Clwb Golff Penmaenmawr yn rhan uchaf y pentref, wrth ymyl y lôn i Fwlch Sychnant. Mae'n un o'r clybiau golff hynaf yng ngogledd Cymru.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dwygyfylchi (plwyf)
- Penmaenmawr (tref)
- Penmaen-mawr (mynydd)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
- ↑ H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984).
Trefi
Abergele ·
Bae Colwyn ·
Betws-y-Coed ·
Conwy ·
Cyffordd Llandudno ·
Degannwy ·
Hen Golwyn ·
Llandudno ·
Llanfairfechan ·
Llanrwst ·
Penmaenmawr ·
Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·
Bae Penrhyn ·
Betws-yn-Rhos ·
Bryn-y-maen ·
Bylchau ·
Caerhun ·
Capel Curig ·
Capel Garmon ·
Cefn Berain ·
Cefn-brith ·
Cerrigydrudion ·
Craig-y-don ·
Cwm Penmachno ·
Dawn ·
Dolgarrog ·
Dolwen ·
Dolwyddelan ·
Dwygyfylchi ·
Eglwys-bach ·
Esgyryn ·
Gellioedd ·
Glanwydden ·
Glasfryn ·
Groes ·
Gwytherin ·
Gyffin ·
Henryd ·
Llanbedr-y-cennin ·
Llandrillo-yn-Rhos ·
Llanddoged ·
Llanddulas ·
Llanefydd ·
Llaneilian-yn-Rhos ·
Llanfair Talhaearn ·
Llanfihangel Glyn Myfyr ·
Llangernyw ·
Llangwm ·
Llangystennin ·
Llanrhos ·
Llanrhychwyn ·
Llan Sain Siôr ·
Llansanffraid Glan Conwy ·
Llansannan ·
Llysfaen ·
Maenan ·
Y Maerdy ·
Melin-y-coed ·
Mochdre ·
Nebo ·
Pandy Tudur ·
Penmachno ·
Pensarn ·
Pentrefelin ·
Pentrefoelas ·
Pentre-llyn-cymmer ·
Pentre Tafarnyfedw ·
Pydew ·
Rowen ·
Rhydlydan ·
Rhyd-y-foel ·
Tal-y-bont ·
Tal-y-cafn ·
Trefriw ·
Tyn-y-groes ·
Ysbyty Ifan