Llanfihangel Glyn Myfyr
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.031°N 3.506°W ![]() |
Cod SYG | W04000125 ![]() |
Cod OS | SH991492 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |

Pentref bychan a chymuned yng nghornel dde-ddwyreiniol eithaf sir Conwy, ond yn hanesyddol yn rhan o'r hen Sir Ddinbych, yw Llanfihangel Glyn Myfyr ( ynganiad ). Mae yn ardal wledig Uwch Aled, tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Gerrigydrudion ar yr hen lôn i Ruthun.
Mae Afon Alwen, sydd â'i tharddle yn Llyn Alwen tua 4 millir i'r gogledd-orllewin, yn llifo heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Dyfrdwy. I'r de o'r pentref ceir bryn isel Mwdwl-eithin.
Ymwelodd William Wordsworth â’r pentref ym 1824 i aros gyda ffrind, Robert Jones, yn y persondy, ac ysgrifennodd y gerdd Vale of Meditation am y pentref.[1]
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mae'n bosibl fod y bardd a brawd crefyddol Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13g?) yn frodor o Lanfihangel Glyn Myfyr.
- Yma y ganed yr hynafiaethydd Owen Jones (Owain Myfyr) (1741-1814), a gymerodd ei enw barddol o'r pentref.
Ffliw adar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar ddydd Iau, 24 Mai 2007, cadarnheuwyd gan lefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru fod yr achos cyntaf o ffliw adar yng Nghymru wedi ei ddarganfod ar fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Rhoddwyd cordon 1 cilomedr o gwmpas y fferm a gofynwyd i ffermwyr eraill fod yn wyliadwrus. Nid oedd y math mwyaf peryglus o ffliw adar, meddai'r llefarydd. Rhai wythnosau'n ddiweddarach datganwyd fod yr argyfwng drosodd.[2]
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Eglwys Sant Mihangel[golygu | golygu cod y dudalen]
Eglwys fechan o’r 13g yw hon, a saif ar lan Afon Alwen, mewn ardal sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i lenorion ers canrifoedd. Yma y symudwyd bedd Owain Myfyr ym 1951, yn ôl i fro ei febyd.
Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]
Bedd Owain Myfyr
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan hiraethog.org.uk
- ↑ Ffliw adar ar fferm yn y gogledd. BBC Cymru'r Byd. BBC (24 Mai, 2007). Adalwyd ar 3 Gorffennaf, 2007.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan