Mochdre, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Mochdre
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlmochyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.29°N 3.76°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000133 Edit this on Wikidata
Cod OSSH826786 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Mochdre, Powys.

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Mochdre.[1][2] Mae'n gorwedd i'r gorllewin o Fae Colwyn ac i'r dwyrain o Gyffordd Llandudno. Hyd Ebrill 1974 bu'r pentref yn rhan o Fwrdeistref Ddinesig Bae Colwyn; heddiw mae'n gymuned ar wahân gyda phoblogaeth o 1,862 (Cyfrifiad 2001). Rhed yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru heibio i Fochdre ar ei ymyl ogleddol.

Mochdre
Parc Busnes Mochdre

Mabinogi[golygu | golygu cod]

Ceir chwedl onomatig sy'n esbonio tarddiad enw'r pentref yn chwedl Math fab Mathonwy, yn y Mabinogi. Mae Gwydion a chwmni o ryfelwyr Gwynedd yn cyrchu llys Pryderi yn Nyfed ac yn dwyn moch lledrithiol Pryderi. Ar eu taith yn ôl i'r gogledd, a rhyfelwyr Dyfed yn dynn ar eu sodlau, arosant mewn sawl llecyn a enwir yn "Fochdref" neu "Fochnant" byth ar ôl hynny. Yr olaf o'r rhain, cyn croesi afon Conwy i Wynedd, yw safle pentref Mochdre:

Ac oddi yna [Mochnant ym Mhowys] y cerddasant hyd yng nghantref Rhos, ac yno y buant y nos honno i mewn y dref a elwir etwa ["o hyd"] Mochdref.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae pentref Mochdre yn rhan o blwyf Llangystennin, ac mae eglwys y plwyf yn adnabyddus fel enghraifft dda o eglwysi Cymreig yr Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad mae'n sefyll ar safle'r eglwys gyntaf i gael ei chodi yng Nghymru.

Erbyn heddiw mae Mochdre yn bentref mawr gyda sawl stad o dai diweddar, ystâd ddiwydiannol sylweddol (Parc Busnes Mochdre), tafarn adnabyddus a siopau lleol. Ers peth amser mae'r pentref yn dioddef problemau cymdeithasol o achos yfed ar y stryd gan bobl ifanc a fandaliaeth.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mochdre, Conwy (pob oed) (1,923)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mochdre, Conwy) (416)
  
22.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mochdre, Conwy) (1202)
  
62.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Mochdre, Conwy) (337)
  
41.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 71. Mewn orgraff ddiweddar.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]