Llansanffraid Glan Conwy
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Ffraid ![]() |
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.268°N 3.796°W, 53.2667°N 3.8°W ![]() |
Cod OS |
SH8075 ![]() |
Cod post |
LL28 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Guto Bebb (Ceidwadwyr) |
Pentref a chymuned yw Llansanffraid Glan Conwy, weithiau Llansantffraid Glan Conwy neu dim ond Glan Conwy, yn sir Conwy. Yn ogystal a'r brif 'Llan' mae'r cymuned yn cynwys trefgorddau Pentrefelin a Dolwyd.
Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, ychydig i'r de i bentref Cyffordd Llandudno a'r pontydd dros yr afon Conwy. Mae'r briffordd A470 yn arwain trwy'r pentref ac mae yno orsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy.
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y Llan ei sefydlu, yn ôl traddodiad, pan wnaeth Sant Ffraid hwylio o'r Iwerddon ar dywarchen a glanio ar lan yr Afon Conwy, tua chwarter milltir i'r gorllewin o'r eglwys bresennol. Fodd bynnag, mae cofnodion yn dangos bod y plwyf wedi ei greu gan Maelgwyn Gwynedd yn y 5g, a bod pum maenor frenhinol wedi cael eu rhoi i'r eglwys i greu'r plwyf. Mae'r rhain yn cael eu cofio yn enwau'r pum trefgordd sy'n goroesi hyd heddiw, Trellan, Trebwll, Tre Trallwyn, Tre Deunant a Phen y Rhos.
Dydd nawddsant y plwyf yw Chwefror y cyntaf [1], pryd ddisgwylir i'r plwyfolion dangos teyrngarwch i'r nawddsant trwy osod corsennau wrth eu drysau. Hen enw ar gorsennau yw "cawn" sydd yn rhoi'r enw i'r afon (cawn/wy duw'r gorsen) ac yn awgrymu bod yr arfer o osod corsennau yn hŷn na'r arfer o glodfori'r Sant Cristionogol.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn hanesyddol prif ddiwydiannau'r pentref oedd amaethyddiaeth a docio sych & siandlera ar gyfer porthladd Conwy. Pan adeiladwyd pontydd Telford (1826) a Stephenson (1848) cafodd y pentref ei ddatgysylltu o'r môr mawr a dechreuodd cyfnod o ddirywiad. Heddiw, mae'n bentref dormitary, mae'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth un ai wedi ymddeol neu'n bobl sy'n cymudo i'r gwaith. Mae Parc Busnes Cae Ffwt, a leolir ar ochr yr A470, wedi dod yn ganolfan i ychydig o fusnesau bach a sefydlwyd yn y pentref.
Llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy yn cynnwys deuddeg o aelodau, chwech o bob un o'r ddwy ward, Bryn Rhys a Fforddlas[2]. Mae'n cynrychioli pobl leol ac mae'n gyfrifol am gynnal prosiectau lleol.
Gwneuthuriad gwleidyddol y Cyngor presennol yw deg aelod annibynnol, un Plaid Cymru ac un Democrat Rhyddfrydol. Megis y rhan fwyaf o gynghorau cymunedol Cymru, prin yw'r sawl sy'n cael eu hethol i'r cyngor mewn etholiadau cystadleuol[3]
Llefydd o addoliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan y plwyf ei heglwys sydd wedi ei noddi i'w mabsant, Eglwys San Ffraid, sydd yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru ac yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Ym 1905 roedd y capeli anghydffurfiol canlynol yn wasanaethu'r plwyf hefyd:[4]
Enw | Enwad | Rhif yr Aelodau |
---|---|---|
Salem Fforddlas | Bedyddwyr | 250 |
Bryn Ebeneser | Methodistiaid Calfinaidd | 250 |
Croesengan | Methodistiaid Calfinaidd | 60 |
Moriah | Methodistiaid Calfinaidd | 100 |
Bryn Rhys | Annibynwyr | 69 |
Carmel | Wesleaid | 35 |
Tyn'y Celyn | Wesleaid | 36 |
Mae pob un ond Salem Fforddlas a Bryn Ebeneser wedi eu cau bellach.
RSPB[golygu | golygu cod y dudalen]
Ychydig i'r gogledd o'r pentref ceir Gwarchodfa Natur Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o Gyffordd Llandudno i gyffiniau'r pentref. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.
Chwaraeon & adloniant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Clwb Pêl Droed Glan Conwy yn chware yng Nghynghrair Undebol y Gogledd [5]. Mae'r clwb yn aelod o Gymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru.
Mae Cymdeithas Chwaraeon ac Adloniant Llansanffraid yn cynnal Gŵyl Hwyl yr Haf, Noson Tân gwyllt, a gweithgareddau chwaraeon amrywiol trwy gydol y flwyddyn.
Cynhelir cyngherddau, dramâu a phanto yn neuadd yr eglwys a pherfformir drama miragl y geni yn y parc cyhoeddus ychydig cyn y Nadolig pob blwyddyn.
Mae dau dafarn yn y pentref y Cross Keys ar Ffordd Llanrwst (A470) a thafarn budd Cymunedol Y Clwb ger y maes pêl droed.
Pobl o Lan Conwy[golygu | golygu cod y dudalen]
- John Williams (Siôn Iorc) Archesgob Efrog, (1582 – 1650). Ganwyd ym Mhlas Isaf [6]
- William Jones (telynor), (bl. tua 1700 - 1720)
- Thomas Roberts (1735 -1804) aelod o Deulu Trefeca
- John Jones (1790 -1855) argraffydd a chyhoeddwr
- Hugh Hughes arlunydd (tua 1790 - 1863)
- John Evans (I. D. Ffraid) (1814-1875), geiriadurwr, cyfieithydd Coll Gwynfa John Milton
- Tomos Efans (Cyndelyn) (1837-1908) bardd a gweinidog gyda'r Bedyddwyr
- John Gibson (cerflunydd)
- John Williams (1801-1859) meddyg, naturiaethwr, awdur Faunula Grustensis
- William Morgan Williams (Fferyllfardd) (1832-1877) Meddyg a bardd a gyhuddwyd o dwyllo i enill cadair eisteddfod
- Hugh Thomas Davies, (1881 - 1969) cerddor, llenor, ac un o arloeswyr Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
- Jake Cassidy (geni 9 Chwefror 1993), pêl-droediwr sydd wedi chware i Wolverhampton Wanderers, Oldham Athletic a Hartlepool United
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/crefydd-dweud/tudalen/110201.shtml
- ↑ http://glanconwy.btck.co.uk/
- ↑ New Glan Conwy Cllr Alwyn Ap Huw has branded local elections a mockery on his blog adalwyd 9 Rhagfyr 2014
- ↑ "Welsh Church Commission: County of Denbigh The Statistics of the Nonconformist Churches for 1905."
- ↑ Division One Clubs - Glan Conwy
- ↑ Coflein - Plas Isaf adalwyd 25 Chwefror, 2019
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan