Bae Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bae Penrhyn
PenrhynChurch7010267.JPG
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Bwrdeistref Sirol Conwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53°18'36"N, 3°46'12"W Edit this on Wikidata
Cod OS SH822812 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Darren Millar (Ceidwadwyr)
AS/au David Jones (Ceidwadwr)

Ardal a phentref fechan ym Mwrdeisdref Sirol Conwy yw Bae Penrhyn (Saesneg: Penrhyn Bay) (Cyfeirnod AO: SH8281). Saif ar yr arfordir gerllaw Rhiwledyn, rhwng Llandudno a Llandrillo-yn-Rhos. Mae'n rhan o gymuned Llandudno a phlwyf Llanrhos. Yn wreiddiol, Penrhyn oedd enw'r graig i'r dwyrain o Fae Llandudno (a elwir heddiw yn y Trwyn y Fuwch neu Little Orme), ond wrth i'r lle ddatblygu daeth yr enw Bae Penrhyn i olygu'r datblygiadiadau newydd a'r bae sydd i'r dwyrain o Drwyn y Fuwch (Gogarth Fach).[1] Gyferbyn iddo (hynny yw, i'r dwyrain o Fae Penrhyn) saif Ochr y Penrhyn (Saesneg: Penrhynside’').[2]

Bae Penrhyn gyda'r pentref

Yr adeilad hynaf yma yw Hen Neuadd Penrhyn, cartref y teulu Pugh. Roedd y teulu yma yn reciwsantiaid Catholig yn niwedd y 16g. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', wrth lethrau isaf Rhiwledyn ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ym 1930.

Ceir yma eglwys, tafarn, llyfrgell a nifer o siopau. Tyfodd Bae Penrhyn yn sylweddol yn ystod yr 20g, pan ddaeth yn faesdref i Landudno.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Llên Natur; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
  2. Hywel Wyn Owen; Richard Morgan. Dictionary of the Place-Names of Wales. Gwasg Gomer, 2007; tudalennau 373 a 214. ISBN 978-1-84323-901-7