Neidio i'r cynnwys

Dolwyddelan

Oddi ar Wicipedia
Dolwyddelan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGwyddelan Edit this on Wikidata
Poblogaeth474, 454, 427 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,922.21 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0424°N 3.8952°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000116 Edit this on Wikidata
Cod OSSH730511 Edit this on Wikidata
Cod postLL25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddBangor Conwy Môn
Etholaeth y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Dolwyddelan.[1][2] Saif yn Nyffryn Lledr ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Enwir y pentref ar ôl Sant Gwyddelan, nawddsant y plwyf. Mae'r A470 a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn pasio drwy'r pentref.

Yn ymyl y pentref ar glogwyn isel y mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll Tywysogion Gwynedd a man geni Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad. Yma hefyd y mae Tanycastell, man geni y pregethwr John Jones, Talysarn. Ychydig yn is i lawr y dyffryn ceir safle caer Rufeinig ym Mryn-y-Gefeiliau. Ar draws y ffordd i'r ffordd fawr ceir Tomen y Castell, sef hen domen o'r Oesoedd Canol.

Dolwyddelan tuag 1875

Llên gwerin

[golygu | golygu cod]

Un a aned yng Ngwm Wybrnant, uwchben Penmachno oedd Ellis Pierce (1841-1912), neu Elis o'r Nant, fel yr adnabyddid ef yngyffrediniol. Ymysg y pynciau y rhoddai sylw iddynt oedd hanes y tywydd yn ei gynefin, Dolwyddelan, a enwir yn 'wlad y gôg', a'i thrigolion yn 'gwcws' hyd heddiw, oherwydd chwedl hynafol am y lle. Yn ôl y chwedl, ganrifoedd ynghynt penderfynodd y cwrddplwy' geisio cadw'r gôg yn No'ddelan drwy'r flwyddyn gan godiwal uchel o amgylch y fro.[3]

Y Bont Rufeinig

[golygu | golygu cod]

Uwchlaw'r pentref yn rhan uchaf y dyffryn mae hen bont a elwir Y Bont Rufeinig. Dywedir iddi gael ei chodi i gludo'r hen ffordd Rufeinig o Canovium (Caerhun) i Domen y Mur, gwersyll Rhufeinig ger Trawsfynydd. Mae ganddi bensaernïaeth anghyffredin iawn, gyda wyth fwa o gerrig anferth, ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod modern cynnar yn hytrach na'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r hen ffordd i fyny'r dyffryn i Flaenau Ffestiniog yn ei chroesi.

Y Bont Rufeinig, Dolwyddelan

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dolwyddelan (pob oed) (474)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dolwyddelan) (238)
 
51.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dolwyddelan) (260)
 
54.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dolwyddelan) (83)
 
38.1%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Pobl o Ddolwyddelan

[golygu | golygu cod]

Mewn llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae sawl golygfa yn y ddrama Dafydd Dywysog gan R. Bryn Williams, wedi'u gosod yng Nghastell Dolwyddelan. Cyhoeddwyd y ddrama ym 1975 gan Wasg Christopher Davies. Ynddi ceir hanes Dafydd ap Gruffudd a'i fam Senana, a'i deulu. Ceir cyfeiriad at y castell a'r enw yn nrama Thomas Parry, Llywelyn Fawr (1954) yn ogystal.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Vivian Parry Williams Archifwyd 2020-09-28 yn y Peiriant Wayback tudalen 6
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.