Tomen y Castell
Math | castell mwnt a beili, adfeilion castell, castell, safle archaeolegol, mwnt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.051494°N 3.904014°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN196 |
Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Tomen y Castell (hefyd: Tomen Castell), heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: ger Dolwyddelan, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH724521.
Cyn i Gastell Dolwyddelan gael ei godi roedd Dyffryn Lledr yn cael ei amddiffyn gan gastell llai, a adwaenir heddiw fel Tomen y Castell. Ar y safle ceir craig gydag olion aneglur muriau twr amddiffynnol sy'n gorwedd chwarter milltir i'r de-ddwyrain o'r castell presennol.
Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'n debyg mai Tywysogion Gwynedd a gododd Domen y Castell.
Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CN196 .[1]
Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Data Cadw
- ↑ ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]