Castell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Almourol 034.jpg
Data cyffredinol
Math amddiffynfa Edit this on Wikidata
Yn cynnwys cwrt mewnol, Gorthwr, mur amddiffynnol, parc castell Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum; Llydaweg Canol castell, Gwyddeleg Canol caisel. Lluosog Cestyll.) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf. Math arbennig o amddiffynfa a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol yw castell, ond mae ei gynseiliau'n gorffwys yng nghyfnod pobl fel y Celtiaid yn Oes yr Haearn a godai fryngaerau niferus, a'r Rhufeiniaid a godai gaerau ledled Ewrop a'r Môr Canoldir. Ceir traddodiad o godi cestyll mewn nifer o wledydd eraill hefyd, er enghraifft yn Tsieina a Siapan.

Datblygiad cestyll yn Ewrop yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Castell Będzin, Gwlad Pwyl

Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach maen nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristaidd.

Ceir gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig. Llefydd milwrol ac amddiffynfeydd oedd cestyll yn yr Oesoedd Canol, yn aml ar dir uchel gyda muriau trwchus a thyredau uchel, ac yn aml hefyd rhagfuriau a ffos o gwmpas. Byddai'r ffenestri yn gul a'r drysau yn drymion. Roedd y castell yn rheolir dref hefyd yn aml, gyda mur o gwmpas y dref yn ogystal a barbican, hefyd. I fynd i mewn i'r castell, yr oedd rhaid mynd dros bont godi a thrwy borthdy cryf â chlwydi a phorthcwlis. Roedd donjon (carchar dan ddaear) mewn llawer o'r cestyll. Weithiau byddai'r castell dan warchae am gyfnod hir a byddai rhaid ildio oherwydd diffyg bwyd.

Roedd y castell yn lle i drigo yn ogystal â bod yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafelloedd byw ac siambrau cysgu, rhai ohonyn nhw'n gyfforddus iawn, cegin, bwtri i gadw gwin neu gwrw, canolfan weinyddol a chapel. Roedd stablau i'r meirch ac ysguborau i gadw bwyd iddynt. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynnon neu ffynhonnell dŵr arall i gadw'r amddiffynwyr yn fyw adeg gwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol â phosibl.

Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn weithiau am eu bod yn aml yn cael eu codi ar dir estron. Yn achos y cestyll Seisnig yng Nghymru yr oedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr neu gyfandir Ewrop ac fe'i gorfodid i adael eu cartrefi i weithio yng Nghymru, efallai am flynyddoedd.

Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwylwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a dewis safle i'w adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysigrwydd oedd y saer maen. Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Byddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn.

Cestyll Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd Cestyll y Tywysogion Cymreig a Rhestr cestyll Cymru.

Cafodd nifer o gestyll eu codi gan y tywysogion Cymreig, yn arbennig yn y cyfnod rhwng yr 11g a thrydydd chwarter y 13g. Yn eu plith mae Castell Dolbadarn, Castell Dolwyddelan, Dinas Emrys, Castell y Bere, Castell Cricieth, Castell Carreg Cennen, Castell Dinefwr, Castell y Dryslwyn, a Castell Dinas Brân.

Adeiladwyd llawer o gestyll yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid a hefyd gan y Saeson, yn bennaf gan Edward I o Loegr, er mwyn cadarnhau ei goncwest, megis Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd, neu Castell Biwmares yn Ynys Môn a Chastell Rhuddlan yn Y Berfeddwlad (Clwyd). Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am castell
yn Wiciadur.