Castell Conwy
![]() | |
Math |
castell ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Conwy Castle and Town Walls ![]() |
Lleoliad |
Conwy ![]() |
Sir |
Conwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
6 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
53.28°N 3.83°W, 53.279938°N 3.825852°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Edward I ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Deunydd |
calchfaen ![]() |
Castell canoloesol yn nhref Conwy ar lan afon Conwy yw Castell Conwy. Cynllunwyd y castell gan y pensaer Ffrengig James o St George ac fe'i adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, er fod Rhisiart o Gaer yn gyfrifol yn y dechrau (1283). Adeiladwyd y castell a'r dref gaerog ar ben adfeilion Abaty Aberconwy, a ddinistrwyd gan Edward er mwyn defnyddio'r safle, ac mae mur o gwmpas y dref gyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref newydd. Roedd Castell Conwy, yn wahanol i nifer o gestyll eraill James o St George, heb fod yn gonsentrig ond yn cael ei godi yn ôl cynllun llinellol oherwydd ffurf y safle creigiog. Mae'r wyth tŵr anferth gyda'u tyredau a'r muriau cysylltu i gyd yn gyfan.[1]
Mae'r castell yng ngofal Cadw. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[2]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Codwyd Castell Conwy gan frenin Lloegr ar ôl iddo orchfygu Teyrnas Gwynedd, calon Tywysogaeth Cymru annibynnol, yn 1282-83. Roedd yn un o gylch o gestyll newydd - yn cynnwys Castell Caernarfon, Castell Biwmares a Chastell Harlech - a godwyd gan y Saeson o amgylch Gwynedd i'w gwarchod yn nwylo'r brenin rhag y Cymry gwrthryfelgar.
Ym 1401, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, cipiodd ei gefnogwyr Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur y castell, a llosgwyd y dref.
Gefeilliwyd Castell Conwy â Chastell Himeji, Japan mewn seremoni ffurfiol yn Himeji ar 29 Hydref 2019. [3]
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynllun pensaerniol o'r castell
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Over Wales, Pitkin Unichrome 2000
- ↑ "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44483725