Amddiffynfa
Gwedd
| Math | adeiladwaith pensaernïol, military area |
|---|---|
| Yn cynnwys | place-of-arms, mur, porth dinas, tŵr, ffos, star fort, mur amddiffynnol, bartizan, neuadd ymarfer, arfdy powdwr gwn |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01czv3 |
| Thesawrws y BNCF | 11607 |
| Quora | Fortification |

Adeilad, adeiladwaith neu strwythur arall a godir er mwyn cryfhau safle llu milwrol yn erbyn ymosodiad yw amddiffynfa, a all fod yn barhaol (er enghraifft bryngaerau, cestyll a chanolfannau milwrol) neu ar y maes (er enghraifft ffosydd).[1]
Dygwyd y dull modern o amddiffyn lleoedd rhag gelynion i arferiad tua'r flwyddyn 1500. Ysgrifennwyd y llyfr cyntaf ar y pwnc gan yr arlunydd Albrecht Dürer yn 1527. Gwnaed gwelliannau mawr yn y gelfyddyd gan y Ffrancwr Sébastien Le Prestre de Vauban, peiriannydd milwrol ym myddin y Brenin Louis XIV, oddeutu'r flwyddyn 1700.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) fortification (military science). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2013.