Rhyfela mewn ffosydd

Oddi ar Wicipedia

Ffurf o ryfela ar y tir yw rhyfela mewn ffosydd.[1] Mae lluoedd gwrthwynebol yn brwydro tra eu bod wedi'u hymsefydlu mewn systemau o ffosydd a gladdir ar naill ochr y maes brwydro. Mae llu milwrol yn troi at ryfela mewn ffosydd pan bo grym tanio'r gelyn yn ei orfodi i dorri ffosydd, i aberthu'i fudoledd er mwyn ennill amddiffyniad.[2] Weithiau dim ond un ochr sy'n mabwysiadu ffosydd, gan amlaf llu sydd ag anfantais confensiynol, megis brwydrwyr herwfilwrol (gerila).

Yr achos fwyaf ac amlycaf o ryfela mewn ffosydd oedd ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[3]

Defnyddiwyd rhyfela mewn ffosydd hefyd gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd, Coreaid y Gogledd a'r Tsieineaid yn Rhyfel Corea, y Việt Minh ym Mrwydr Điện Biên Phủ yn ystod Rhyfel Indo-Tsieina, a naill ochr yn Rhyfel Iran ac Irac.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [trench].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) trench warfare. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2013.
  3. (Saesneg) What was trench warfare?. Prifysgol Durham. Adalwyd ar 27 Awst 2013.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Saunders, Anthony. Trench Warfare 1850–1950 (Barnsley, Pen & Sword, 2010).