Việt Minh

Oddi ar Wicipedia
Baner y Việt Minh

Mudiad oedd yn brwydro dros annibyniaeth Fietnam oedd y Việt Minh (Fietnameg: Việt Nam Ðộc Lập Ðồng Minh Hội, Cynghrair dros Annibyniaeth Fietnam). Sefydlwyd yn Nanjing, Tsieina, rhywbryd rhwng 1935 a 1936 fel ffrynt unedig yn erbyn Ymerodraeth Ffrainc oedd yn rheoli Indo-Tsieina Ffrengig, ond wnaeth darfod yn fuan. Adferwyd y mudiad ym 1941 gan Blaid Gomiwnyddol Indo-Tsieina a Ho Chi Minh i wrthwynebu meddiannaeth Fietnam gan Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chafodd gefnogaeth gan yr Unol Daleithiau a Gweriniaeth Tsieina. Wedi i'r Japaneaid encilio ar ddiwedd y rhyfel, parhaodd y Việt Minh i wrthwynebu imperialaeth Ffrainc yn Fietnam. Enciliodd lluoedd Ffrainc rhag De Ddwyrain Asia ar ddiwedd Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina ym 1954, wedi iddynt golli nifer o frwydrau i luoedd Võ Nguyên Giáp, arweinydd milwrol y Việt Minh. Daeth y Việt Minh i rym yng Ngogledd Fietnam wedi i Fietnam rhannu'n ddwy yn ôl Cytundeb Genefa, a gwrthwynebodd llywodraeth De Fietnam a'r Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam. Erbyn 1960 cafodd ei ddisodli fel mudiad herwfilwrol comiwnyddol yn y De gan Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol De Fietnam.