Rhyfel Fietnam

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhyfel Fietnam
Rhan o'r Rhyfel Oer a Rhyfeloedd Indo-Tsieina
TrangBang.jpg
Phan Thị Kim Phúc, canol, ger Trảng Bàng, Fietnam, ar 8 Mehefin 1972, wedi i fom napalm gael ei ollwng gan Awyrlu Unol Daleithiau America: Nick Ut / The Associated Press.
Dyddiad 1 Tachwedd 1955[A 1] – 30 Ebrill 1975
Lleoliad De Fietnam, Gogledd Fietnam, Cambodia, Laos
Canlyniad Buddugoliaeth i luoedd comiwnyddol Fietnam
  • Enciliad lluoedd Americanaidd rhag Indo-Tsieina
  • Diddymiad De Fietnam
  • Llywodraethau comiwnyddol yn dod i rym yn Fietnam, Cambodia, a Laos
Newidiadau
tiriogaethol
Uniad Gogledd a De Fietnam gan ffurfio Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam.

Gwrthdaro milwrol yn ystod y Rhyfel Oer oedd Rhyfel Fietnam[A 2] a ddigwyddodd yn Fietnam, Laos, a Chambodia o 1 Tachwedd 1955[A 1] hyd gwymp Saigon ar 30 Ebrill 1975. Dilynodd y rhyfel hwn Ryfel Cyntaf Indo-Tsieina ac ymladdwyd rhwng Gogledd Fietnam, gyda chefnogaeth ei chynghreiriaid comiwnyddol, a llywodraeth De Fietnam, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau a gwledydd gwrth-gomiwnyddol eraill.[6] Ymladdodd y Fiet Cong, ffrynt cyffredin comiwnyddol yn Ne Fietnam nad oedd yn meddu ar lawer o arfau, ryfel herwfilwrol yn erbyn lluoedd gwrth-gomiwnyddol yn yr ardal. Bu Byddin Pobl Fietnam, byddin y Gogledd, yn ymladd rhyfel mwy confensiynol, weithiau gan ddanfon niferoedd mawr i frwydro. Dibynnodd lluoedd Americanaidd a De Fietnam ar ragoriaeth awyrennol a grym tanio trwm er mwyn cynnal ymgyrchoedd chwilio a dinistrio, gyda milwyr ar y tir, magnelau, a chyrchoedd awyr.

O safbwynt y llywodraeth Americanaidd roedd ei rôl yn y gwrthdaro yn fodd atal o De Fietnam rhag cwympo i gomiwnyddiaeth, ac felly'n rhan o strategaeth ehangach yr Unol Daleithiau o gyfyngu lledaeniad Comiwnyddiaeth. Yn ôl llywodraeth Gogledd Fietnam roedd y rhyfel yn un drefedigaethol, a ymladdwyd yn gyntaf gan Ffrainc, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, ac yna yn erbyn De Fietnam, a gafodd ei gweld yn wladwriaeth byped Americanaidd.[7] Cyrhaeddodd cynghorwyr milwrol Americanaidd ar gychwyn 1950, a dwysaodd ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn gynnar yn y 1960au; treblodd niferoedd y lluoedd Americanaidd ym 1961 ac eto ym 1962.[8] Defnyddiwyd lluoedd ymladd gan yr Americanwyr o 1965 ymlaen. Ymledodd ymgyrchoedd milwrol dros ororau, a chafodd Laos a Chambodia eu bomio'n drwm. Bu ymyrraeth yr Unol Daleithiau ar ei hanterth ym 1968, adeg Ymosodiad Tet. Wedi hyn, enciliodd lluoedd Americanaidd o dir yr ardal fel rhan o bolisi a elwir yn Fietnameiddio. Er i holl ochrau'r gwrthdaro arwyddo Cytundeb Heddwch Paris yn Ionawr 1973, parhaodd yr ymladd.

Daeth rhan filwrol yr Unol Daleithiau yn y rhyfel i ben ar 15 Awst 1973 o ganlyniad i Welliant Case–Church a basiwyd gan Gyngres y wlad.[9] Nododd cipio Saigon gan fyddin Gogledd Fietnam ddiwedd y rhyfel ym mis Ebrill 1975. Adunodd Gogledd a De Fietnam y flwyddyn wedyn. Bu nifer fawr o golledigion, ac mae amcangyfrifon o nifer y milwyr a sifiliaid Fietnamaidd a fu farw yn amrywio o lai nag un miliwn[10] i fwy na thair miliwn.[11] Bu farw tua 200,000–300,000 o Gambodiaid,[12][13][14] 20,000–200,000 o Laosiaid,[15][16][17][18][19][20] a 58,220 o luoedd Americanaidd hefyd.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Dynes wedi'i llosgi gan napalm, gyda thag ynghlwm wrth ei braich sy'n darllen "VNC Female" sy'n golygu sifiliaid o Fietnam. Gan y ffotograffydd Cymraeg, Philip Jones Griffiths. 1967

Lleolir gwlad Fietnam yn ne-orllewin Asia ar ochr ddwyreiniol yr orynys Indocheiniaidd. Roedd wedi bod o dan reolaeth Ffrainc ers y 19eg ganrif fel rhan o’i hymerodraeth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd lluoedd Japaneaidd wedi goresgyn Fietnam. Er mwyn brwydro yn erbyn y Siapaneaid a’r Ffrancwyr, penderfynodd yr arweinydd gwleidyddol, Ho Chin Minh, a ysbrydolwyd gan gomiwnyddiaeth Tsieina a’r Undeb Sofietaidd, sefydlu'r Viet Minh, neu’r Gynghrair dros Annibyniaeth Fietnam.

Wedi iddi gael ei threchu yn yr Ail Ryfel Byd yn 1945, penderfynodd Siapan dynnu ei milwyr allan o Fietnam, gan adael yr Ymerawdwr Bao Dai mewn grym. Gan weld cyfle i gipio pŵer, lansiwyd gwrthryfel yn syth gan luoedd Ho Chi Minh, sef y Viet Minh. Meddiannwyd dinas ogleddol Hanoi a chyhoeddwyd bodolaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd Fietnam (DRV – Democratic Republic of Vietnam) gyda Ho fel ei harlywydd.

Er mwyn ceisio ail-gipio pŵer, dangosodd Ffrainc ei chefnogaeth i’r Ymerawdwr Bao a sefydlwyd gwladwriaeth Fietnam yng Ngorffennaf 1949, gyda Saigon fel ei phrifddinas.

Roedd y ddwy ochr yn anelu at yr un bwriad: Fietnam unedig. Ond tra bod Ho a’i gefnogwyr yn dymuno creu gwlad a oedd wedi ei modelu ar wledydd comiwnyddol eraill, roedd Bao a llawer o bobl eraill eisiau creu Fietnam oedd â chysylltiadau economaidd a diwylliannol agosach â’r Gorllewin.[21]

Wedi i luoedd comiwnyddol Ho gipio pŵer yn y gogledd, parhaodd y gwrthdaro arfog rhwng byddinoedd y gogledd a’r de nes enillodd y Viet Minh frwydr yn y gogledd, sef Brwydr Dien Bien Phu ym Mai 1954. Daeth y fuddugoliaeth â diwedd ar gyfnod o bron i ganrif o reolaeth gan Ymerodraeth Ffrainc yn Indo-Tsieina.

Llofnodwyd cytundeb yng Ngorffennaf 1954 mewn cynhadledd yn Genefa a oedd yn rhannu Fietnam ar hyd y lledred oedd yn cael ei hadnabod fel Paralel 17 (17 gradd lledred gogleddol), gyda Ho yn rheoli'r Gogledd a Bao yn rheoli'r De. Roedd y cytundeb yn gofyn hefyd am etholiadau cenedlaethol ar gyfer ail-uno, a fyddai'n cael eu cynnal yn 1956.

Serch hynny, dymchwelwyd llywodraeth yr Ymerawdwr Bao yn 1955 gan y gwleidydd gwrth-gomiwnyddol Ngo Dinh Diem, a ddaeth yn arlywydd Llywodraeth Gweriniaeth Fietnam (GVN – Government of the Republic of Vietnam). Cyfeirir at y Weriniaeth yn aml yn ystod y cyfnod hwn fel De Fietnam.[22]

Wrth i’r Rhyfel Oer ddwysáu ar draws y byd, mabwysiadodd UDA bolisïau mwy llym tuag at gynghreiriaid a chefnogwyr yr Undeb Sofietaidd. Yn 1961 anfonwyd tîm gan yr Arlywydd Kennedy i adrodd yn ôl ar yr amodau yn Ne Fietnam. Daeth y tîm i’r penderfyniad bod angen cynyddu cymorth milwrol, economaidd a thechnolegol UDA yn y wlad er mwyn helpu Diem i wynebu’r bygythiad yng Ngogledd Fietnam.

Yn 1964, dechreuodd UDA fomio'r Gogledd a thargedau comiwnyddol eraill yn y rhanbarth, ac yn 1965 roedd 82,000 o luoedd arfog wedi eu lleoli yn Fietnam er mwyn helpu i amddiffyn byddin De Fietnam a oedd yn cael trafferthion gwrthsefyll y bygythiad o’r Gogledd.

Strategaeth a thactegau ymladd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Fiet Cong[golygu | golygu cod y dudalen]

Americanwr yn un o wersylloedd y Fiet Cong.

Roedd tactegau ac arfau'r Fiet Cong yn is o ran technoleg na rhai'r Unol Daleithiau, er eu bod nhw wedi defnyddio ambell roced a thanc a gyflenwyd gan Tsieina a'r Undeb Sofietaidd. Fe wnaethon nhw ddefnyddio eu cynefindra â'r tir i adeiladu rhwydweithiau eang o dwneli a ffosydd i guddio o olwg y fyddin Americanaidd.

Yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Unol Daleithiau America yn chwarae rhan fawr yn y rhyfel. Roedd technoleg newydd yn ffactor pwysig yn eu tactegau ymladd, gydag awyrennau bomio B-52, hofrenyddion a lanswyr rocedi yn cael eu defnyddio. Gwelwyd hefyd defnydd o ryfela cemegol gan y lluoedd Americanaidd, fel Agent Orange - chwynladdwr i rwystro'r Fiet Cong rhag cuddio yn y jyngl, a napalm, cemegyn sy'n llosgi'r croen.

Cychwynnodd UDA Ymgyrch Rolling Thunder yn 1965, sef ymosodiad o fomio strategol lle targedwyd porthladdoedd, canolfannau a llinellau cyflenwadau milwrol yng Ngogledd Fietnam i rwystro cefnogaeth i'r Fiet Cong. Parhaodd Byddin yr Unol Daleithiau â strategaeth chwilio a dinistrio drwy gydol y rhyfel, lle bu filwyr yn ymosod ar aneddiadau a'u dinistrio'n llwyr a lladd yr holl drigolion.

Diwedd y Rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Wrth iddi wynebu mwy o golledigion, gwrthwynebiad cynyddol i’r rhyfel yn Fietnam yn yr Unol Daleithiau a beirniadaeth gynyddol o’i rôl yn y rhyfel, penderfynodd UDA dynnu ei milwyr arfog ar y tir allan o Fietnam ar ddechrau’r 1970au. Bwriad y broses hon hefyd oedd ceisio cryfhau a sefydlogi llywodraeth De Fietnam. Profodd hyn yn aflwyddiannus.[23] Yn dilyn Cytundeb Heddwch Paris ar 27 Ionawr 1973, tynnwyd holl luoedd arfog America allan ar 29 Mawrth 1973.[24] Yn Rhagfyr 1974, meddiannodd Gogledd Fietnam dalaith Phước Long a chychwynnwyd ymosodiad a arweiniodd at gipio Saigon ar 30 Ebrill 1975.[25] Rheolwyd De Fietnam am bron i wyth mlynedd gan lywodraeth dros dro tra'r oedd hefyd o dan reolaeth filwrol Gogledd Fietnam.[26]

Yn 1974 amcangyfrifodd is-bwyllgor Senedd UDA bod bron i 1.4 miliwn o sifiliaid Fietnamaidd wedi cael eu lladd neu eu hanafu rhwng 1965 a 1974 – dros eu hanner wedi eu hachosi o ganlyniad i weithredoedd milwrol UDA a De Fietnam.

Ar 2 Gorffennaf 1976, unwyd Gogledd a De Fietnam er mwyn ffurfio Gweriniaeth Sosialaidd Việt Nam. Achosodd y rhyfel ddinistr ofnadwy yn Fietnam, gyda chyfanswm y marwolaethau rhwng 966,000 a 3.8 miliwn.[27] Yn dilyn y rhyfel, pan fu llywodraeth Lê Duẩn mewn pŵer, er mawr syndod i’r Gorllewin, ni ddienyddiwyd y rhai o Dde Fietnam a oedd wedi cydweithio ag UDA neu gyda hen lywodraeth De Fietnam. Er hynny, cafodd 300,000 o bobl De Fietnam eu hanfon i wersylloedd ail-addysgu, lle cafodd llawer eu harteithio, eu hamddifadu o fwyd a dioddef afiechydon wrth iddynt gael eu gorfodi i wneud llafur caled.[28]

Hyd heddiw, mae Fietnam yn cael ei hystyried yn wlad gomiwnyddol gyda llywodraeth un blaid sosialaidd unedol MarcsaiddLeninaidd.

Hofrennydd UH-1D yn codi wedi iddo ollwng criw o filwyr traed Americanaidd ar faes y gad, ar ymgyrch "chwilio a dinistrio".

Troednodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Oherwydd presenoldeb cynnar yn Fietnam gan luoedd Americanaidd mae dyddiad cychwyn Rhyfel Fietnam yn ardal lwyd. Ym 1998, yn dilyn adolygiad dan Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau a thrwy ymdrechion teulu Richard B. Fitzgibbon, fe newidiwyd dyddiad cychwyn Rhyfel Fietnam i 1 Tachwedd 1955.[2] Yn ôl adroddiadau llywodraethol Americanaidd modern, 1 Tachwedd 1955 yw dyddiad cychwyn "Gwrthdaro Fietnam", sef y dyddiad a grëwyd Grŵp Ymgynghorol Cynorthwyol Milwrol (MAAG) Fietnamaidd gan yr Unol Daleithiau, gan ddilyn aildrefniad MAAG Indo-Tsieina yn unedau unigol i bob gwlad.[3] Mae dyddiadau cychwyn eraill yn cynnwys Rhagfyr 1956, pan awdurdododd Hanoi i luoedd y Fiet Cong ddechrau gwrthryfel ar raddfa isel yn Ne Fietnam.[4] Yn ôl eraill dechreuodd y rhyfel ar 26 Medi 1959, dyddiad y frwydr gyntaf rhwng y fyddin Gomiwnyddol a byddin De Fietnam.[5]
  2. Gelwir hefyd yn Ail Ryfel Indo-Tsieina, y Rhyfel Americanaidd yn Fietnam ac, yn Fietnam, y Rhyfel yn erbyn yr Americanwyr er Achub y Genedl.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Official news source use of the name". Vietnamnews.vnagency.com.vn. 29 October 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2011. Cyrchwyd 28 April 2010.
  2. DoD 1998
  3. Lawrence 2009, t. 20
  4. James Olson and Randy Roberts, Where the Domino Fell: America and Vietnam, 1945–1990, p. 67 (New York: St. Martin's Press, 1991).
  5. Origins of the Insurgency in South Vietnam, 1954–1960, The Pentagon Papers (Gravel Edition), Volume 1, Chapter 5, (Boston: Beacon Press, 1971), Section 3, pp. 314–346; International Relations Department, Mount Holyoke College.
  6. "Vietnam War". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 5 March 2008. Meanwhile, the United States, its military demoralized and its civilian electorate deeply divided, began a process of coming to terms with defeat in its longest and most controversial war
  7. "Learn about the Vietnam War".
  8. Vietnam War Statistics and Facts 1, 25th Aviation Batallion website.
  9. Kolko, Gabriel Anatomy of War, pp. 457, 461 ff., ISBN 1-898876-67-3.
  10. Charles Hirschman et al., “Vietnamese Casualties During the American War: A New Estimate,” Population and Development Review, December 1995.
  11. Associated Press, April 3, 1995, "Vietnam Says 1.1 Million Died Fighting For North."
  12. Heuveline, Patrick (2001). "The Demographic Analysis of Mortality in Cambodia." In Forced Migration and Mortality, eds. Holly E. Reed and Charles B. Keely. Washington, D.C.: National Academy Press.
  13. Marek Sliwinski, Le Génocide Khmer Rouge: Une Analyse Démographique (L’Harmattan, 1995).
  14. Banister, Judith, and Paige Johnson (1993). "After the Nightmare: The Population of Cambodia." In Genocide and Democracy in Cambodia: The Khmer Rouge, the United Nations and the International Community, ed. Ben Kiernan. New Haven, Conn.: Yale University Southeast Asia Studies.
  15. Warner, Roger, Shooting at the Moon, (1996), pp366, estimates 30,000 Hmong.
  16. Obermeyer, "Fifty years of violent war deaths from Vietnam to Bosnia", British Medical Journal, 2008, estimates 60,000 total.
  17. T. Lomperis, From People's War to People's Rule, (1996), estimates 35,000 total.
  18. Small, Melvin & Joel David Singer, Resort to Arms: International and Civil Wars 1816-1980, (1982), estimates 20,000 total.
  19. Taylor, Charles Lewis, The World Handbook of Political and Social Indicators, estimates 20,000 total.
  20. Stuart-Fox, Martin, A History of Laos, estimates 200,000 by 1973.
  21. Editors, History com. "Vietnam War". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  22. Editors, History com. "Vietnam War". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  23. Eggleston, Michael A., 1937- (2014). Exiting Vietnam : the era of Vietnamization and American withdrawal revealed in first-person accounts. Jefferson, NC: McFarland. ISBN 978-1-4766-1458-8. OCLC 876345378.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  24. Editors, History com. "U.S. withdraws from Vietnam". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-07.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  25. The encyclopedia of the Vietnam War : a political, social, and military history. Tucker, Spencer, 1937- (arg. 2nd ed). Santa Barbara, Calif.: ABC-CLIO. 2011. t. 749. ISBN 978-1-85109-960-3. OCLC 729629958.CS1 maint: others (link) CS1 maint: extra text (link)
  26. Brigham, Robert K. (Robert Kendall), 1960- (1998). Guerrilla diplomacy : the NLF's foreign relations and the Viet Nam War. Ithaca: Cornell University Press. ISBN 0-8014-3317-7. OCLC 39398906.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  27. Hirschman, Charles; Preston, Samuel; Loi, Vu Manh (1995-12). "Vietnamese Casualties During the American War: A New Estimate". Population and Development Review 21 (4): 783. doi:10.2307/2137774. https://www.jstor.org/stable/2137774?origin=crossref.
  28. "Vietnam Reeducation Camps". Berkeley University. Cyrchwyd 7 Medi 2020.