Democratiaeth gymdeithasol
Ideoleg economaidd a gwleidyddol sydd yn gysylltiedig â sosialaeth a'r mudiad llafur yw democratiaeth gymdeithasol sydd yn cydnabod strwythur ddemocrataidd y wladwriaeth ac yn dadlau dros ei newid drwy ddiwygio yn lle chwyldro.
Mae democratiaeth gymdeithasol a chomiwnyddiaeth yn rhannu'r un gwreiddiau, sef sosialaeth y 19g ac ysgrifau Karl Marx a Friedrich Engels. Mae democratiaeth gymdeithasol yn osgoi'r ysbryd milwriaethus a llywodraeth dotalitaraidd sydd yn nodweddion o gomiwnyddiaeth. Yn hytrach, dadleuodd dros drawsnewidiad heddychlon o gyfalafiaeth i sosialaeth drwy'r broses wleidyddol ac ymgyrchoedd cymdeithasol.
Yn ail hanner yr 20g, datblygodd athrawiaeth gymedrol o ddemocratiaeth gymdeithasol sydd yn arddel rheoleiddio yn hytrach na pherchenogaeth gan y wladwriaeth. Mae'r ffurf hon felly yn derbyn y system gyfalafol ond yn ceisio ei rheoli. Y prif nodwedd arall ohoni yw'r bwriad i gynnal y boblogaeth drwy'r wladwriaeth les. Mae democratiaeth gymdeithasol yn wahanol i sosialaeth ddemocrataidd, sydd yn debyg i Farcsiaeth-Leniniaeth yn ei gwrth-gyfalafiaeth ond nid yn ei agwedd tuag at ddemocratiaeth.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- J. Vaizey, Social Democracy (Llundain, 1971).