Ceidwadaeth
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Term cymharol yw ceidwadaeth sy'n disgrifio ideolegau gwleidyddol sydd yn ffafrïo gwerthoedd ac ymddygiadau traddodiadol, lle mae "traddodiad" yn cyfeirio at gredoau ac arferion a ddiffinir yn grefyddol, diwylliannol neu genedlaethol. Daw'r term o "cadw", yn yr ystyr i gadw traddodiadau. Gan fod gan ddiwylliannau wahanol werthoedd sefydledig, mae amcanion gwahanol gan geidwadwyr o ddiwylliant i ddiwylliant. Mae rhai ceidwadwyr yn ceisio cadw'r status quo, tra bod eraill yn dymuno dychwelyd at werthoedd amser cynt, y status quo ante.