Ffasgiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ideolegau Gwleidyddol
Anarchiaeth
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb
Comiwnyddiaeth
Cymunedoliaeth
Democratiaeth Gristnogol
Democratiaeth gymdeithasol
Ffasgiaeth
Ffeministiaeth
Gwleidyddiaeth werdd
Islamiaeth
Natsïaeth
Rhyddewyllysiaeth
Rhyddfrydiaeth
Sosialaeth

Yn hanesyddol fe ddaeth ffasgiaeth (neu ffasgaeth) i'r amlwg am y tro cynfaf yn yr Eidal, yr Almaen a Sbaen yn nauddegau'r 20fed ganrif. Daeth y Ffasgwyr am y tro cyntaf i rym o dan Benito Mussolini yn yr Eidal ar ôl yr orymdaith enwog ar Rufain (1922).

Fe ddaw'r enw Ffasgiaeth o'r gair Lladin fasces, sydd yn cyfeirio at y clwstwr o wialenni a gariwyd o flaen ynadon blaengar yn y Rhufain hynafol i symboleiddio cosb ac awdurdod. Yr oedd y symbol yn arwyddocaol o'r ffordd yr edrychai'r ffasgwyr yn ôl at y gorffennol wrth geisio newyddeb gyfoes ac hefyd eu cred yn undod gryf (y clwstwr o wialenni) o gwmpas y genedl.

Ystyrir yn ideoleg awdurdodol, ac ar y sbectrwm traddodiadol chwith-dde yn dde eithafol, o ganlyniad i'w gwerthoedd ceidwadol a chenedlaetholgar. Pwysleisia Ffasgiaeth undod, hierarchaeth, ymosodedd, disgyblaeth a phŵer. Eto, mae ei safiad economaidd yn un gymhleth a dadleuol. Yn hynod o wrthwynebol i gomiwnyddiaeth ac (i raddfa llai) rhyddfrydiaeth, mae Ffasgiaeth yn cyfuno elfennau o reolaeth gwladwriaethol gyda chyfalafiaeth, gan honni nid ydynt yn gyfalafol na chwaith yn gomiwnyddol, ond yn rhan o'r "trydydd ffordd". Cred Ffasgwyr mewn cydweithrediad dosbarthiadol (yn gwbl groes i'r frwydr ddosbarthiadol sosialaidd) er lles y genedl, ac felly gwelir ormesiad o undebau llafur a chyfundrefnau gweithwyr ond hefyd ymyrraeth anghyson a'r diwydianwyr. Cyfeilir hyn yn aml a hunan gynaladwyedd economaidd (neu awtarchiaeth), er mwyn bod yn wlad annibynnol gryf.

Mae'r hunan gynaladwyedd yn cydfyd gyda'i thueddiad at bolisïau tramor ymosodol, er mwyn adfer yr hyn gwelant fel tramgwyddau hanesyddol neu'r eisiau i ehangu tiroedd ac ennill trefedigaethau i'w hecsploetio er lles y genedl. Ceir felly pwyslais ar y fyddin a'r lluoedd arfog. Serch hyn, cysylltir Ffasgwyr â grwpiau paramilitaraidd, oedd yn hanesyddol elfennol i'w hesgyniad i bŵer a defnyddir fel arf i frawychu a meddiannu'r poblogaeth, megis Crysau Duon gwreiddiol Mussolini neu Sturmabteilung (stormfilwyr) y Natsïaid. Rhan nodweddiadol o lywodraethau Ffasgaidd (fel llywodraethau awdurdodol eraill) yw eu defnydd allweddol o bropaganda a chredorfodi. Yn yr Eidal ceisiwyd creu cwlt personoliaeth o gwmpas Benito Mussolini, ac yn yr Almaen aethant cam ymhellach gan greu system o gredorfodi yn ysgolion, cyfnewid crefyddau am grefydd Natsïaidd a thrin eu harweinydd, Adolf Hitler, fel fath o dduw.

Cysylltir Ffasgiaeth a hiliaeth, yn enwedig gwahaniaethu ac ormesu'r Iddewon a grwpiau lleiafrifol eraill yn yr Almaen gan y Natsïaid. Eto i gyd, nid oedd hiliaeth yn rhan elfennol o Ffasgaeth yr Eidal - dechreuodd ei erledigaeth o'r Iddewon tua diwedd ei oes, ac bu Mussolini yn gynharach yn gwadu bodolaeth hiliau o gwbl. Adlewyrcha hyn gwahaniaeth bwysig rhwng ideolegau'r dau system - i'r Ffasgwyr Eidalaidd roedd y pwyslais ar undod o gwmpas y wladwriaeth Eidaleg, lle i'r Natsïaid roedd yr undod yn undod o gwmpas y genedl Almaeneg Ariaidd. Ceir cryn ddadlau hyd heddiw os mai ffurf o Ffasgaeth yw Natsïaeth neu ideoleg gwahanol efo elfennau tebyg.

Yn hanesyddol ystyrir cymdeithas Sparta hynafol fel esiampl o proto-Ffasgiaeth.

Gweler hefyd[golygu]

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.