Neo-Natsïaeth

Term yw Neo-Natsïaeth sy'n cyfeirio at fudiadau, pleidiau ac ideolegau asgell dde eithafol wedi'r Ail Ryfel Byd sy'n ceisio adfer Natsïaeth neu ryw amrywiad arni sy'n adleisio rhai o elfennau crai Natsïaeth fel y gred mewn goruchafiaeth hil neu genedl a/neu drefnu cymdeithas ar linellau "integraliaeth Völkisch."
Anaml mae'r bobl a mudiadau hyn yn defnyddio'r term 'Neo-Natsïaidd' i'w disgrifio eu hunain gan ffafrio yn ei le labeli fel Sosialaidd Cenedlaethol (National Socialist) neu 'Cenedlaetholgar'. Mae rhai pobl sy'n bleidiol i'r ideoleg yn osgoi termau sy'n cael eu cysylltu â Natsïaeth yn hanesyddol: mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, fel Yr Almaen er enghraifft, ceir deddfwriaeth sy'n gwahardd datgan barn o blaid Natsïaeth a daliadau hiliol a gwrth-Semitaidd.
Yn aml mae Neo-Natsïaid yn defnyddio symbolau Indo-Ariaidd a ddefnyddid yn yr Almaen Natsïaidd, fel y Swastika, Rwnau Sig a phatrymau o'r lliwiau coch, gwyn a du. Ymddengys fod gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn ffenomen fyd-eang, gyda mudiadau a phleidiau mewn sawl gwlad a rhwydweithiau rhyngwladol hefyd. Mae unigolion a gysylltir â gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn cynnwys Colin Jordan, George Lincoln Rockwell, John Tyndall, Eddy Morrison, a Nick Griffin.
Mudiadau Neo-Natsïaidd
[golygu | golygu cod]Affrica
[golygu | golygu cod]Asia
[golygu | golygu cod]- TürkischeJugend - Twrci
- Mudiad Sosialaidd Cenedlaethol Twrci - Twrci
- Plaid Sosialaidd Genedlaethol Gweithwyr a Buddiannau Japan - Japan
- SUMKA (Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Iran) - Iran
- Cynghrair Ariaidd - (Cynghrair Sosialaidd Cenedlaethol Ariaidd) - Iran
- Cymdeithas Sosialaidd Genedlaethol (Taiwan) - Taiwan
Ewrop
[golygu | golygu cod]- Hrisi Avgi (Gwawr Euraidd) - Gwlad Groeg
- Imperium europa - Malta
- Nacionalni stroj - Serbia
- Kärntner Heimatdienst - Carinthia
- Danmarks Nationalsocialistiske Bevægelse - Denmarc
Norwy
[golygu | golygu cod]Sweden
[golygu | golygu cod]Rwsia
[golygu | golygu cod]Y Deyrnas Unedig
[golygu | golygu cod]Gogledd America
[golygu | golygu cod]- Heritage Front - Canada
- Aryan Nation - yr Unol Daleithiau (UDA), Canada
- United National Socialist Movement - UDA, Canada
- Northern Alliance - Canada
Unol Daleithiau
[golygu | golygu cod]Oceania
[golygu | golygu cod]De America
[golygu | golygu cod]- Partido Nuevo Triunfo - Yr Ariannin[1]
- Carecas do ABC ("Skinheads" rhanbarth ABC) - Brasil
Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]- Blood & Honour - rhwydwaith Neo-Natsïaidd rhyngwladol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Partido Nuevo Triunfo - Orden Nacional". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-12-01. Cyrchwyd 2009-05-03.