Gwrth-Semitiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Semitiaeth a Seioniaeth.

Casineb at Iddewon neu ragfarn yn eu herbyn yw Gwrth-Semitiaeth. Yn hanesyddol mae dwy brif ffurf ar wrth-Semitiaeth wedi bod: Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol (neu Grefyddol), a Gwrth-Semitiaeth Fodern (neu Hiliol).

Gwrth-Semitiaeth Ganoloesol[golygu | golygu cod y dudalen]

Erlid Iddewon yn y Lloegr ganoloesol. Darlun o Groniclau Offa gan Matthew Paris.

Roedd hon wedi'i seilio ar y gred mai cymuned grefyddol oedd wedi mynd ar gyfeiliorn oedd yr Iddewon. Yn waeth na hynny, yng ngolwg gwrth-Semitiaid yr Oesoedd Canol, roedd yr Iddewon wedi dewis crwydro oddi ar y llwybr cywir, gan wrthod Iesu Grist fel Meseia, er ei fod e'n hanu o'u cenedl nhw. Ceir enghraifft ddiddorol iawn o'r meddylfryd hwn yn y Gymraeg yn llyfr dychanol Ellis Wynne, Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, a gyhoeddwyd yn 1703. Yn hwnnw, mae'r prif gymeriad yn cael ei dywys i "Eglwys yr Iddewon" lle mae'r addolwyr "yn methu cael y ffordd i ddianc o'r Ddinas Ddihenydd, er bod sbectol lwyd-olau ganddynt, am fod rhyw huchen wrth ysbïo yn tyfu dros eu llygaid, eisiau eu hiro â'r gwerthfawr ennaint, ffydd."

Mae enghraifft weledol drawiadol iawn o Wrth-Semitiaeth Ganoloesol i'w chael yn Eglwys Gadeiriol Strasbwrg, dwyrain Ffrainc, lle mae cerfluniau o ddwy chwaer yn sefyll o boptu porth yr eglwys. Ar y naill law mae ecclesia (yr eglwys) yn gwisgo coron ac yn cario llond cwpan o waed Crist. Ar y llall, mae synagoga (yr addoldy Iddewig), yn gwisgo cadach dros ei llygad i ddangos ei bod wedi dewis bod yn ddall i wirionedd yr Efengyl.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, arweiniodd credoau gwrth-Iddewig at gryn drais at Iddewon, yn enwedig yn ystod y Croesgadau. Enghraifft arswydus o hyn oedd yr ymosodiad gwaedlyd ar gymuned Iddewig Caerefrog, gogledd Lloegr, wrth iddynt geisio lloches yn Nhŵr Clifford ym 1190.

Gwrth-Semitiaeth Fodern[golygu | golygu cod y dudalen]

Poster propaganda gan y Fyddin Wen yn darlunio Trotsky fel Iddew dieflig.

Mae hon wedi'i seilio ar y syniad mai hil yw'r Iddewon, a'u bod nhw fel hil neu genedl yn niweidiol i genhedloedd eraill. Yn rhan o hyn, mae cred bod Iddewon yn cydweithio gyda'i gilydd i reoli economi'r byd er eu mantais eu hunain. Roedd y fath wrth-Semitiaeth yn ffasiynol iawn yn yr 1920au a'r 1930au, gan gael ei hybu gan bobl ddylanwadol fel Henry Ford. Cafodd ei fynegi yn Gymraeg gan Saunders Lewis yn ei gerdd Y Dilyw, lle bwriodd y bai ar fancwyr Iddewig am greu argyfwng economaidd yr 1930au: "Penderfynodd y duwiau...a'u ffroenau Hebreig yn ystadegau'r chwarter, ddod y dydd i brinhau credyd drwy fydysawd aur."

Cyrhaeddodd Gwrth-Semitiaeth Fodern ei phenllanw ar ffurf Natsïaeth yr Almaen, pan welwyd ymgais i lofruddio'r cyfan o boblogaeth Iddewig Ewrop.

Yn hanesyddol mae'r gwledydd Islamig ac Arabaidd wedi bod yn fwy goddefol tuag at yr Iddewon na'r gwledydd Ewropeaidd Cristnogol. Yn yr Oesoedd Canol, pan erlidid Iddewon ar draws Ewrop, roedd cymunedau o Iddewon - a Christnogion hefyd - yn byw mewn dinasoedd fel Jerwsalem a Damascus ochr yn ochr â'r Mwslimiaid. Yn ddiweddar mae rhai gwleidyddion, fel Mahmoud Ahmadinejad, Arlywydd Iran, wedi cael eu cyhuddo o wrth-Semitiaeth.

Er bod Gwrth-Semitiaeth weithiau wedi bod yn dreisgar iawn, yn enwedig yn Nwyrain Ewrop, dim ond un enghraifft o drais gwrth-Iddewig difrifol sydd wedi'i chofnodi yng Nghymru. Bu terfysg gwrth-Iddewig yn Nhredegar yn 1911, pan ymosododd torf ar siopau Iddewon y dref gan ganu emynau Cristnogol. Er nad anafwyd neb yn gorfforol, difrodwyd siopau ac eiddo eraill yn Nhredegar, Glyn Ebwy, Y Cwm a Bargoed.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: