Henry Ford
Henry Ford | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
30 Gorffennaf 1863 ![]() Dearborn ![]() |
Bu farw |
7 Ebrill 1947 ![]() Achos: gwaedlif ar yr ymennydd ![]() Dearborn ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
entrepreneur, peiriannydd, dyfeisiwr, ysgrifennwr, gwleidydd, gyrrwr ceir cyflym, newyddiadurwr, diwydiannwr, entrepreneur busnes, gweithredydd heddwch ![]() |
Tad |
William Ford ![]() |
Mam |
Mary Litogot O'Hern ![]() |
Priod |
Clara Bryant Ford ![]() |
Plant |
Edsel Bryant Ford ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Elliott Cresson, Order of the German Eagle, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Holley Medal, Washington Award, James Watt International Medal, Urdd y Coron ![]() |
Chwaraeon | |
Llofnod | |
![]() |
Diwydiannwr Americanaidd oedd Henry Ford (30 Gorffennaf 1863 – 7 Ebrill 1947).[1] Ef oedd sylfaenydd cwmni moduron Ford Motor Company.
Ganed Ford yn Wayne County (Michigan). Cynhyrchodd ei fodur cyntaf yn 1892. Sefydlodd y Detroit Automobile Company, ond methodd y cwmni yn fuan; yna dechreuodd yr Henry Ford Company heb lawer o lwyddiant. Dim ond ar ei drydedd ymgais, gyda'r Ford Motor Company, y cafodd lwyddiant. Cynhyrchodd nifer o wahanol foduron, pob un yn cael ei ddynodi a llythyren, o'r Model A hyd y Model S; ond y Model T a ddaeth a llwyddiant mawr i'r cwmni. Am hwn y gwnaeth Ford ei sylw enwog y gallai'r cwsmer ei gael mewn unrhyw liw, cyn belled a'i fod yn ddu.
Yn ei ffatrioedd, mabwysiadodd ddull newydd o weithio, y "llinell adeiladu", a gwnaeth hyn gynhyrchu modurion mewn niferoedd mawr yn bosibl am y tro cyntaf. Golygai hyn fod y moduron yn llawer rhatach. Priododd Clara Bryant yn 1888, a chawsant un mab, Edsel Bryant Ford.
O 1919 ymlaen, cyhoeddodd y Dearborn Independent, oedd yn cynnwys deunydd dadleuol, peth ohono'n wrth-semitaidd. Ceir elfennau o hyn yn ei hunangofiant hefyd. Yn 1927, ymddiheurodd yn gyhoeddus am hyn a rhoddodd y gorau i gyhoeddi'r cylchgrawn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Henry Ford Is Dead at 83 in Dearborn. The New York Times (8 Ebrill 1947). Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.