Mathew Paris
Mathew Paris | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1200 ![]() Lloegr ![]() |
Bu farw | 1259 ![]() St Albans ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mapiwr, hagiograffydd, achydd, goleuwr, arlunydd, ysgrifennwr, mynach, hanesydd ![]() |
Adnabyddus am | Chronica maiora, The Lives of the Two Offas ![]() |
Hanesydd canoloesol o Sais oedd Mathew Paris (c. 1200 - Mehefin 1259),[1] sy'n adnabyddus hefyd fel darluniwr llawysgrifau.
Ymunodd Mathew ag abaty Benedictaidd St Albans yn 1217 ac aeth yn ddisgybl i'r croniclydd Roger o Wendover a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn 1236. Teithiodd i astudio yn Ffrainc ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y Pab Innocentius IV i Norwy.
Mae ei Chronica Majora yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y Chronica Majora (y Historia Minora) a bywgraffiadau abadau.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Matthew Paris (yn Saesneg). CUP Archive. t. 11.