St Albans
| Math | dinas, ardal ddi-blwyf |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Alban |
| Ardal weinyddol | Dinas ac Ardal St Albans |
| Poblogaeth | 82,146 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Hertford (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 18.1 km² |
| Yn ffinio gyda | Harpenden |
| Cyfesurynnau | 51.755°N 0.336°W |
| Cod OS | TL148073 |
![]() | |
Dinas yn ne Swydd Hertford, Dwyrain Lloegr, yw St Albans[1] (o'r Lladin Villa Sancti Albani neu Villa Albani), a leolir tua 22 milltir (35 km). Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas ac Ardal St Albans. Saif i'r gogledd o ganol Llundain; mae'n ffurfio rhan ganolog Dinas ac Ardal St Albans (Saesneg: City and District of St Albans). Mae'n dref farchnad hanesyddol sydd bellach yn rhan o wregys comiwtio Llundain.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig St Albans boblogaeth o 82,146.[2]
Cyfeirir at St Albans fel Verulanium ac Old Albanian weithiau hefyd. Cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, roedd St Albans yn drigfan i bobl Celtaidd y Catuvellauni ac yn cael ei hadnabod fel Verlamion (neu Verulam). Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, Verlamion oedd yr arosfa cyntaf ar Stryd Watling, y ffordd Rufeinig a redai o Lundain i'r gogledd, a ddatblygodd yn ddinas Rufeinig Verulamium.
Cafodd Sant Alban, a ystyrir y merthyr Cristnogol cyntaf ym Mhrydain, ei ddienyddio yn 308 OC gan Maximian ar orchymyn yr Ymerodr Diocletian. Ar ôl Sant Alban caiff y ddinas bresennol ei henw.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Mehefin 2020
- ↑ City Population; adalwyd 24 Mehefin 2020
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol St Albans
Dinas
St Albans
Trefi
Baldock ·
Berkhamsted ·
Bishop's Stortford ·
Borehamwood ·
Broxbourne ·
Buntingford ·
Bushey ·
Cheshunt ·
Chorleywood ·
Harpenden ·
Hatfield ·
Hemel Hempstead ·
Hertford ·
Hitchin ·
Hoddesdon ·
Letchworth ·
Potters Bar ·
Radlett ·
Rickmansworth ·
Royston ·
Sawbridgeworth ·
Stevenage ·
Tring ·
Waltham Cross ·
Ware ·
Watford ·
Welwyn Garden City
