Newcastle upon Tyne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Newcastle upon Tyne
Tyne Bridge - Newcastle Upon Tyne - England - 2004-08-14.jpg
Math dinas, dinas fawr, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Dinas Newcastle upon Tyne
Poblogaeth 300,196 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2G (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bergen, Gelsenkirchen, Groningen, Haifa, Malmö Municipality, Nancy, Newcastle, Singkawang, Atlanta, Taiyuan, Gdańsk, Lagos Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Tyne a Wear
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 114,000,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 30 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Tyne Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 54.9778°N 1.6133°W Edit this on Wikidata
Cod post NE Edit this on Wikidata

Dinas yn Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Newcastle upon Tyne neu Newcastle.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Newcastle upon Tyne. Saif ar Afon Tyne.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Newcastle upon Tyne boblogaeth o 286,064.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y cyfnod Rhufeinig safai Pons Aelius, un o geyrydd y Rhufeiniaid ar hyd Mur Hadrian, ar safle presennol Newcastle. Adeiladwyd castell Normannaidd yno tua 1080, ar adfeilion tref Eingl-Sacsonaidd Monkchester, gan Robert Curthose, mab Gwilym I. Hwn oedd y castell newydd y mae'r ddinas yn cael ei henw ganddo. Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Newcastle yn gaer bwysig, roedd yn amddiffyn ffin ogleddol Lloegr yn erbyn yr Alban. Yn yr 19g, datblygodd Newcastle fel porthladd allforio glo o lofeydd Durham ac fel canolfan adeiladu llongau a pheirianyddiaeth drwm. Ar sail cyfoeth y Chwyldro Diwydiannol, ailadeiladwyd canol y ddinas mewn arddull neoglasurol yn y 1830au. Mae pensaernïaeth Grey Street yn nodweddiadol o'r arddull hon. Adeiladwyd Pont Tyne ym 1928. Yn ystod y 1990au cafodd ardal Glan y Cei ei hailddatblygu, ac adeiladwyd Pont y Mileniwm yn cysylltu Newcastle â thref gyfagos Gateshead a'r datblygiadau diwylliannol newydd yno.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 29 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 29 Gorffennaf 2020
Newcastle u tyne brueckenpanorama.jpg