Leeds
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas, ardal di-blwyf ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
474,632 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Leeds ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
551,720,000 m² ![]() |
Uwch y môr |
10 metr, 340 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Aire, Leeds and Liverpool Canal, Meanwood Beck ![]() |
Cyfesurynnau |
53.7997°N 1.5492°W ![]() |
Cod SYG |
E43000244 ![]() |
Cod OS |
SE297338 ![]() |
Dinas yng ngogledd Lloegr yw Leeds. Saif ar lan afon Aire yng Ngorllewin Swydd Efrog gyda chamlesi hanesyddol yn ei chysylltu â Lerpwl a Goole. Sefydlwyd Prifysgol Leeds yno yn 1904. Amcangyfrifwyd yn 2007 fod y boblogaeth yn 761,100.
Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd teyrnas Elfed - a gyfeirir yn aml fel Elmet - yn gysylltiedig â'r rhan yma o Swydd Efrog. Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol hon hefyd yn "Elmet".
Mae'r deyrnas wedi cael ei choffau gan nifer o feirdd o Gymru o'r 6g hyd y presennol.
Roedd y bardd Ted Hughes hefyd yn ymwybodol iawn o etifediaeth Frythoneg ei sir enedigol a chyhoeddodd lyfr o gerddi a ffotograffiau o'r enw 'Remains of Elmet' hefo Fay Godwin ym 1979. Ail-gyhoeddwyd y llyfr ym 1994 gan Faber and Faber dan yr enw 'Elmet'.
Mae'r ddinas hefyd yn enwog iawn am ei thim pêl-droed fu'n hynod llwyddiannus yn y 60au a'r 70au ac yn enillwyr cyson yn haen uchaf cynghreiriau Lloegr ac yn y cwpannau Ewropeaidd o dan arweiniaeth Don Revie - bu Terry Yorath cyn gapten a rheolwr Cymru yn rhan allweddol o dim a gynhwysai Billy Bremner, Joe Jordan, Peter Lorimer ac eraill. Cafodd y cyfnod cythrublys a ddilynodd ymadawiad Revie pan ddaeth Brian Clough i reoli'r time ei goffau yn llyfr enwog David Peace - 'The Damned United' a wnaethpwyd yn ffilm gyda'r Cymri Michael Sheen yn actio Clough. Bellach mae Leed United yn chwarae ym mhencampwrieth Lloegr - sel ail reng y cynghreiriau.
Mae ar y ffordd Ewropeaidd E22.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Abaty Kirkstall
- Adeilad Lumiere
- Marchnad Kirkgate
- Neuadd y Dref
- Neuadd Lotherton
- Plas Bridgewater ("Y Dalek")
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- John Smeaton (1724-1792), peiriannydd
- Theresa Garnett (1888 - 1966), ffeminist a swffragét
- Ernie Wise (1925-1999), comediwr
- Peter O'Toole (g. 1932), actor
- Alan Bennett (g. 1934), awdur
- Tony Harrison (g. 1937), bardd
- Elizabeth Dawn (g. 1939), actores (Vera Duckworth)
- Jeremy Paxman (g. 1950), newyddiadurwr
- Marco Pierre White (g. 1961), chef
- Chris Moyles (g. 1974), cyflwydydd radio
Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]
Dinaswedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dinasoedd
Bradford ·
Leeds ·
Wakefield
Trefi
Baildon ·
Batley ·
Bingley ·
Brighouse ·
Castleford ·
Cleckheaton ·
Dewsbury ·
Elland ·
Featherstone ·
Garforth ·
Guiseley ·
Halifax ·
Hebden Bridge ·
Heckmondwike ·
Hemsworth ·
Holmfirth ·
Horsforth ·
Huddersfield ·
Ilkley ·
Keighley ·
Knottingley ·
Meltham ·
Mirfield ·
Morley ·
Mytholmroyd ·
Normanton ·
Ossett ·
Otley ·
Pontefract ·
Pudsey ·
Rothwell ·
Shipley ·
Silsden ·
South Elmsall ·
Sowerby Bridge ·
Todmorden ·
Wetherby ·
Yeadon