Aberdeen
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 200,680 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 65.1 km² |
Gerllaw | Afon Don, Afon Dee, Aberdeen Bay |
Cyfesurynnau | 57.15°N 2.1°W |
Cod SYG | S20000478, S19000600 |
Cod post | AB10-AB13 (parte), AB15, AB16, AB22-AB25 |
GB-ABE | |
- Gweler hefyd Swydd Aberdeen.
Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg yr Alban: Obar Dheathain;[1] Sgoteg: Aiberdeen).[2] Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.
Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Coleg Marischal
- Eglwys Gadeiriol Sant Machar
- Mercat Cross
- Neuadd cerddoriaeth
- Tolbooth
- Tŷ'r Provost Ross
-
Tŷ'r Provost Ross, Aberdeen
-
Heol Union
-
Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth
-
Mercat Cross Aberdeen
Pobl o Aberdeen
[golygu | golygu cod]- Henry Cecil (1943–2013), hyfforddwr ceffylau
- Mary Garden (1874-1967), cantores
- Graeme Garden (g. 1943), comediwr
- Evelyn Glennie (g. 1965), cerddor
- Denis Law (g. 1940), chwaraewr pêl-droed
- Annie Lennox (g. 1954), cantores
- James Clerk Maxwell (1831–1879), gwyddonydd
- Caroline Phillips (1874 - 1956), Ffeminist a swffragét
- Ron Yeats g. 1937, chwaraewr pêl-droed
Cludiant
[golygu | golygu cod]Mae gan Aberdeen maes awyr.
Mae trenau'n mynd o orsaf reilffordd Aberdeen i Inverness, Glasgow, Caeredin, Llundain a Penzance.
Mae gwasanaethau fferi Northlink yn mynd i Kirkwall a Lerwick.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- De Aberdeen (etholaeth seneddol y DU)
- Dwyrain Dundee (etholaeth seneddol y DU)
- Gorllewin Dundee (etholaeth seneddol y DU)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-03 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 3 Hydref 2019
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 12 Ebrill 2022