Southampton

Oddi ar Wicipedia
Southampton
Mathdinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Southampton
Poblogaeth271,173 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHampshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd51.47 km² Edit this on Wikidata
GerllawRiver Itchen, Afon Test, Southampton Water Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.9067°N 1.4044°W Edit this on Wikidata
Cod postSO Edit this on Wikidata
Map

Dinas a phorthladd yn Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Southampton.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dinas Southampton, ac i bob pwrpas mae ganddi yr un ffiniau â'r awdurdod.

Mae'n gorwedd ar arfordir de Lloegr ar Southampton Water, sy'n fraich o'r Môr Udd (Y Sianel). Mae'r Water yn angorfa rhagorol ac mewn canlyniad Southampton yw porthladd llongau teithwyr prysuraf gwledydd Prydain sy'n enwog fel man cychwyn traddodiadol y llongau teithwyr traws-Iwerydd, o Brydain i'r Unol Daleithiau.

Lleolir Prifysgol Southampton, a sefydlwyd yn 1952, yn y ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Bargate
  • Theatr Mayflower
  • Tŵr Tŷ Duw
  • Tŷ Brenin Ioan
  • Tŷ Tudur

Enwogion[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 30 Mawrth 2020


Eginyn erthygl sydd uchod am Hampshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.