Kaliningrad
| Math | canolfan oblast, tref neu ddinas, dinas fawr, dinas gyda statws oblast |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Mikhail Kalinin |
| Poblogaeth | 488,690 |
| Sefydlwyd |
|
| Pennaeth llywodraeth | Oleg Aminov |
| Cylchfa amser | UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Kaliningrad Urban Okrug |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 224.7 km² |
| Uwch y môr | 5 metr |
| Gerllaw | Afon Pregolya |
| Cyfesurynnau | 54.72°N 20.5°E |
| Cod post | 236000 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Oleg Aminov |
![]() | |
Dinas a phorthladd yn Rwsia yw Kaliningrad (Rwseg: Калининград; Almaeneg: Königsberg; Lithwaneg: Karaliaučius, Pwyleg: Królewiec), sy'n ganolfan weinyddol Oblast Kaliningrad yn rhanbarth gweinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol. Poblogaeth: 431,902 (Cyfrifiad 2010). Yr hen enw, tan 1946 oedd Königsberg ac fe'i sefydlwyd gan Farchogion Tiwtonaidd yn 1255.
Mae'r ddinas tua 663 cilometr (412 mi) i'r gorllewin o'r rhan fwyaf o Rwsia, yng ngorllewin y Rwsia Ewropeaidd ac mae Oblast Kaliningrad yn allglofan o Rwsia ei hun, sy'n gorwedd rhwng Lithwania a Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Mae'r ddinas wedi'i lleoli ar Afon Pregolya, ar ben Morlyn Vistula ar y Môr Baltig. Dyma'r unig borthladd sy'n rhydd o iâ yn Rwsia ym Môr y Baltig.
Ei phoblogaeth yw 488,690 (1 Ionawr 2025), tua'r un faint a Chaerdydd. Kaliningrad yw'r ddinas ail-fwyaf yn Nosbarth Ffederal Gogledd-orllewinolRwsia ar ôl Saint Petersburg, y drydedd ddinas fwyaf yn rhanbarth y Baltig, a'r seithfed ddinas fwyaf ar y Môr Baltig.
Cafodd Kaliningrad ei hailenwi, ei hailadeiladu a'i hailboblogi gan Rwsiaid ym 1946 yn adfeilion yr hen Königsberg, ac yno, dim ond trigolion o Lithwania oedd yn cael byw. Yn y cyfamser, carthwyd y boblogaeth Almaenig mewn modd ethnig, gan greu dinas newydd i bob pwrpas. Roedd Königsberg ei hun wedi'i sefydlu ym 1255 ar safle anheddiad hynafol Hen Brwsia Twangste gan Farchogion Tiwtonaidd yn ystod Croesgadau'r Gogledd, a'i enwi'n Königsberg i anrhydeddu Brenin Ottokar II o Fohemia. Daeth yn brifddinas Gwladwriaeth yr Urdd Diwtonaidd, Dugiaeth Prwsia (1525–1701) a Dwyrain Prwsia.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas
