Caerliwelydd
Caerliwelydd | |
---|---|
Lleoliad o fewn Prydain | |
Gwlad | Lloegr |
Ardal | Gogledd-ddwyrain Lloegr |
Llywodraeth | |
Daearyddiaeth | |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 75,306 (Cyfrifiad 2011) |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | GMT (UTC+0) |
Cod Post | CA |
Gwefan | www.carlisle.gov.uk |
Dinas yng ngogledd-orllewin eithaf Lloegr, 16 km o'r ffin a'r Alban, a thref sirol hanesyddol Cumberland yw Caerliwelydd (Saesneg Carlisle, Lladin Luguvalium). Heddiw mae'n rhan o ardal gweinyddol Dinas Caerliwelydd o fewn swydd Cumbria. Hon yw canolfan weinyddol yr ardal a'r swydd. Mae tua 70,000 o bobl yn byw yn y ddinas ei hun, tra bod 100,739 yn byw yn ardal gweinyddol Dinas Caerliwelydd (Cyfrifiad 2001).
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Caerliwelydd yn sefyll ger pen gorllewinol Mur Hadrian. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o adeiladwaith pren tua OC 72 neu 73. Codwyd caer newydd yn ei lle tua OC 105. Yn 165 codwyd caer gerrig yn ei lle. Mae rhai haneswyr yn awgrymu mai Caerliwelydd oedd prifddinas Valentia, talaith Rufeinig o fewn Britannia a sefydlwyd yn 369, ond ni ellir profi hynny.
Mae'r enw Rhufeinig Luguvalium yn dynodi "mur neu le Llug" a thybir mai enw duw brodorol yw Llug. Yr enw Cymraeg yw Caerliwelydd, Caer Lliwelydd, a cheir mwy nag un enghraifft o'r enw personol Lliwelydd mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (e.e. Llwyddawg fab Lliwelydd yn Englynion y Beddau, Llyfr Du Caerfyrddin).
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Amgueddfa Tŷ Tullie
- Castell Caerliwelydd
- Eglwys gadeiriol
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Margaret Forster (g. 1938), awdures
- Melvyn Bragg (g. 1939), cyflwynwr ac awdur
- Mike Figgis (g. 1948), cyfarwyddwr ffilm
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Yr Hen Ogledd |
|
---|---|
Teyrnasoedd: | Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
Pobl: | Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
Lleoedd: | Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
Gweler hefyd: |
Dinasoedd
Caerliwelydd
Trefi
Alston ·
Ambleside ·
Appleby-in-Westmorland ·
Aspatria ·
Barrow-in-Furness ·
Bowness-on-Windermere ·
Brampton ·
Broughton-in-Furness ·
Cleator Moor ·
Cockermouth ·
Dalton-in-Furness ·
Egremont ·
Grange-over-Sands ·
Harrington ·
Kendal ·
Keswick ·
Kirkby Lonsdale ·
Kirkby Stephen ·
Longtown ·
Maryport ·
Millom ·
Penrith ·
Sedbergh ·
Silloth ·
Ulverston ·
Whitehaven ·
Wigton ·
Windermere ·
Workington