Sawyl Ben Uchel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Pennaeth o'r Hen Ogledd oedd Sawyl Ben Uchel (fl. 6g). Roedd yn un o feibion Pabo Post Prydain - pennaeth arall o'r Hen Ogledd a gysylltir â Llanbabo, Môn, yn ôl traddodiad - ac felly'n un o ddisgynyddion y Brenin Coel Hen. Ar sail yr achau Cymreig traddodiadol, mae'n debyg ei fod yn byw yn yr un cyfnod â Urien Rheged a Taliesin.

Yn yr achau traddodiadol a geir yn y testun Cymraeg Canol Bonedd Gwŷr y Gogledd, ceir llinach Pabo Post Prydain ac enwau ei feibion:

Dunod a Cherwydd a Sawyl Ben Uchel meibion Pabo Post Prydain mab Arthwys mab Mar mab Cenau mab Coel.

Mae disgynyddion eraill Coel Hen, sef y Coelwys, yn cynnwys Urien Rheged, Llywarch Hen, Clydno Eidyn, Elidir Lydanwyn, Eliffer Gosgorddfawr a Gwenddolau.

Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig Trioedd Ynys Prydain, cofnodir 'Sawyl Ben Uchel mab Pabo Post Prydein' yn un o 'Dri Thrahawg Ynys Prydain', gyda Pasgen fab Urien a Rhun fab Einion. Mae'r enw 'Sawyl' yn deillio o'r enw Lladin Samuelis (Hebraeg: Samuel). Er mai fel 'Sawyl Ben Uchel' y cyfeirir ato yn gyffredinol, mae testun achau cynnar yn ei alw yn 'Sawyl Ben Isel' (Samuil Pennissel) ac mae'n bosibl mai 'Pen Isel' oedd yr epithet gwreiddiol.

Yn ôl Bonedd y Saint roedd Sawyl yn dad i Sant Asaph (Assa) a gafodd gan ei wraig Gwenasedd ferch Rhain. Yn ei Gronicl mae'r hynafiaethydd Elis Gruffydd yn cofnodi fod merch Sawyl wedi priodi Maelgwn Gwynedd, brenin grymusaf Prydain yn hanner cyntaf y 6g. Cyfeiria testun achyddol Gwyddelig at un Samuel Chend-isel (Chend-isel = 'Pen Isel') a briododd Deichter, merch Muiredach Muinderg, brenin Wlster, a dywedir iddynt gael dau fab, sef Sanctan, a ddaeth yn esgob Cil-dá-les a sefydlydd Kilnasantan yn Swydd Ddulyn, a Matóc Ailithir. Mae'r Liber Hymnorum Gwyddelig yn cofnodi fod Sanctan a Matóc wedi dod i Iwerddon o Ynys Prydain.[1]

Ym Mrut y Brenhinedd, cyfeiria Sieffre o Fynwy at Samuil Penissel, sy'n awgrymu ei fod yn dilyn ffynhonnell achyddol gynnar (cf. uchod). Ond mae Sieffre yn lleoli teyrnasiad Sawyl yn y cyfnod cyn-Rufeinig.

Ym Muchedd Sant Cadog mae Sawyl yn frenin trahaus a lyncir mewn cors am wrthwynebu'r sant. Lleolir y Sawyl hwnnw yn ardal Cydweli ac mae'n bosibl mai at frenin arall y cyfeirir neu fod traddodiadau am y Sawyl o'r Hen Ogledd a rheolwr lleol wedi cymysgu dros y canrifoedd. Yn ôl y Fuchedd roedd ganddo lys yn Allt Cunedda, yn Sir Gaerfyrddin a chafodd ei gladdu mewn tomen o'r enw 'Banc Benuchel'.

Ceir cyfeiriad arall at Sawyl mewn cerdd gan Yr Ustus Llwyd (14g).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Peter C. Bartrum (1993), A Welsh Classical Dictionary, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, tt. 580-581.

Prif ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991). Gweler Triawd 23, Atodiad II, a'r nodyn ar dud. 506.