Kingston upon Hull

Oddi ar Wicipedia
Kingston upon Hull
Mathdinas Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Kingston upon Hull
Poblogaeth260,200 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirDwyrain Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd71,450,000 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.7444°N 0.3325°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y ddinas yn Lloegr yw hon. Gweler hefyd Hull (gwahaniaethu).

Dinas, awdurdod unedol, a phorthladd yn Nwyrain Swydd Efrog, rhanbarth Swydd Efrog a'r Humber, yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Kingston upon Hull[1] neu Hull. Saif ar lan Afon Hull, yn y man lle mae'n ymuno â Afon Humber, tua 25 milltir o arfordir Môr y Gogledd.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Kingston upon Hull boblogaeth o 284,321.[2]

Pysgota yw'r prif ddiwydiant traddodiadol.

Cafodd ei enwi yn "Kings town upon Hull" ("Kingston upon Hull") gan y brenin Edward I o Loegr yn 1299. Ymladdwyd sawl brwydr yno yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Er bod Hull yn ddinas, does dim eglwys gadeiriol yno. Dioddedfod y ddinas yn drwm yn ystos yr Ail Ryfel Byd ac mae ei diwydiant wedi dioddef hefyd ers hynny. Ond yn ddiweddar mae rhaglen o adfywio wedi cychwyn gyda sawl prosiect diwylliannol a phrosiectau chawaraeon.

Ganed William Wilberforce yn Hull yn 1759 a cheir amgueddfa iddo yn y ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Castell Hull
  • Gerddi'r Brenhines
  • Guildhall
  • Stadiwm KC
  • Theatr Newydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 17 Mehefin 2020
  2. City Population; adalwyd 17 Mehefin 2020