Afon Humber
| Math | aber |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Lloegr |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 37,988 ha |
| Cyfesurynnau | 53.7006°N 0.6903°W, 53.5425°N 0.0925°E |
| Aber | Môr y Gogledd |
| Llednentydd | Afon Ouse, Afon Trent, Afon Hull, Afon Ancholme, Afon Freshney |
| Dalgylch | 24,750 cilometr sgwâr |
| Hyd | 121 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | safle Ramsar, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Moryd yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yw'r Humber, neu afon Humber fel y'i gelwir weithiau. Mae'n foryd hir a ffurfir gan gydlifyad Afon Ouse ac Afon Trent. Rhed ar gwrs dwyreiniol i Fôr y Gogledd, gan lifo heibio i borthladdoedd Hull, Immingham a Grimsby. Ei hyd yw 40 milltir.
Mae'n cael ei chroesi gan Pont Humber, a oedd y bont un rhychwant hiraf yn y byd (1410m / 4626 troedfedd) pan gafodd ei hagor yn 1981.
Yn yr 8g dynodai afon Humber ffin ogleddol teyrnas Offa, brenin Mersia, gyda theyrnas Northumbria yn gorwedd i'r gogledd.
Humberside
[golygu | golygu cod]- Prif: Humberside
Ar 1 Ebrill 1974 crëwyd Humberside fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o rannau o'r hen Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, Riding Gorllewinol Swydd Efrog a Swydd Lincoln ar bob ochr Afon Humber. Yn wahanol i "Merseyside" (Glannau Merswy), nid oedd yr enw "Humberside" erioed wedi cael ei ddefnyddio llawer iawn o'r blaen yn ffurfiol nac yn anffurfiol. Roedd y sir newydd yn amhoblogaidd gyda chryn nifer o'i thrigolion, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996, gan gael ei disodli gan nifer o awdurdodau unedol. Serch hynny, er nad oes gan yr enw statws cyfreithiol mwyach, weithiau mae'n dal i gael ei ddefnyddio i gyfeirio at yr ardal.
