Riding Dwyreiniol Swydd Efrog
Gwedd
| Math | riding Swydd Efrog |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Swydd Efrog |
| Gwlad | |
| Yn ffinio gyda | Riding Gorllewinol Swydd Efrog, Riding Gogleddol Swydd Efrog |
| Cyfesurynnau | 53.897°N 0.493°W |
![]() | |
Un o dri israniad hanesyddol Swydd Efrog, gogledd-ddwyrain Lloegr, oedd Riding Dwyreiniol Swydd Efrog (Saesneg: East Riding of Yorkshire). Rhwng 1889 a 1974 roedd yn sir weinyddol (enw swyddogol: County of York, East Riding).

Roedd yn ffinio â Riding Gogleddol Swydd Efrog i'r gogledd, Riding Gorllewinol Swydd Efrog i'r gorllewin, a Swydd Lincoln i'r de.
Ar ôl iddo gael ei ddiddymu ym 1974, daeth y rhan fwyaf o'r Riding Dwyreiniol yn rhan o sir an-fetropolitan newydd Humberside, er bod peth o'i diriogaeth wedi'i drosglwyddo i Ogledd Swydd Efrog.
