Riding Gogleddol Swydd Efrog
Gwedd
| Math | riding Swydd Efrog |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Swydd Efrog |
| Gwlad | |
| Yn ffinio gyda | Riding Gorllewinol Swydd Efrog, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog |
| Cyfesurynnau | 54.3378°N 1.4286°W |
![]() | |
Un o dri israniad hanesyddol Swydd Efrog, gogledd-ddwyrain Lloegr, oedd Riding Gogleddol Swydd Efrog (Saesneg: North Riding of Yorkshire). Rhwng 1889 a 1974 roedd yn sir weinyddol (enw swyddogol: County of York, North Riding).

Roedd yn ffinio â Riding Dwyreiniol Swydd Efrog a Riding Gorllewinol Swydd Efrog i'r de, Westmorland i'r gorllewin, a Swydd Durham i'r gogledd.
Ar ôl iddo gael ei ddiddymu ym 1974, daeth y rhan fwyaf o'r Riding Gogleddol yn rhan o sir an-fetropolitan newydd Gogledd Swydd Efrog, er bod peth o'i diriogaeth wedi'i drosglwyddo i Swydd Durham.
