Swydd Efrog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Swydd Efrog
Flag of Yorkshire
Rhanbarth o fewn Lloegr
Daearyddiaeth
Statws Swydd draddodiadol yn cynnwys 4 awdurdod sirol, llai.
Oed/tarddiad Hen Sir
Rhanbarth o Loegr Ystyrir Efrog yn Rhanbarth, gyda 4 Sir oddi fewn iddi
Arwynebedd
- Cyfanswm
1af
2,941,247 km2 (1,135,622 sq mi)
Canolfan weinyddol Efrog
Sysytem ONS
NUTS 3
Demograffeg
Poblogaeth
- Cyfanswm (2011)
- Dwysedd
5,288,200

1.35/km2 (3.5/sq mi)
Tras ethnig
Gwleidyddiaeth
Dim Cyngor Sir
Aelodau Seneddol (yn 2005)
Dosbarth
Tiriogaethau Prydain 500-700
Lloegr tua 878 OC.

Un o siroedd traddodiadol gogledd Lloegr yw Swydd Efrog (Yorkshire) a'r fwyaf yng ngwledydd Prydain o ran ei harwynebedd. Ei phrifddinas yw Caer Efrog (York). Cadwyd yr enw 'Efrog' wedi i'r sir ddiflannu, ac edrychir arno, bellach, fel enw rhanbarth yn ogystal â sir draddodiadol, hanesyddol.[1] Yn adeg Rhyfel y Rhosynnau gelwid ei thrigolion yn 'Iorciaid'.

Cyn 1974 rhannwyd Swydd Efrog yn dair sir seremonïol (neu "Riding"); daw'r gair 'Riding' o'r darddiad Llychlynaidd Threthingr, a olygai 'tair rhan':

Rhannau cyn ad-drefnu 1974
1. Gogledd Swydd Efrog
2. Gorllewin Efrog
3. Dwyrain Swydd Efrog

Yn dilyn yr ad-drefnu ychwanegwyd De Swydd Efrog a newidiwyd y ffiniau.

Oherwydd ei maint, ceir ynddi lawer o faesydd gwyrdd, a ystyrir ymhlith y gwyrddaf yn Lloegr, yn enwedig ardaloedd fel yr Yorkshire Dales a Rhostiroedd Gogleddd Swydd Efrog.[2]

Symbol Swydd Efrog yw rhosyn gwyn, a chynrychiolir Efrog (y rhabarth) gan faner ac arni rosyn gwyn ar gefndir glas, yn symbol o'r Iorciaid,[3] a dderbyniwyd gan Sefydliad Baner Prydain ar 29 Gorffennaf 2008.[4] Cynhelir 'Diwrnog Efrog' (Yorkshire Day) ar y 1af o Awst yn flynyddol, pan ddethlir hanes, tafodiaeth a diwylliant unigryw yr ardal[5].

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel llawer o enwau lleoedd yng ngogledd a gorllewin lloegr, cael llawer o enwau Celtaidd (neu Frythoneg). Daw'r gair "Efrog" o un o ddau air Brythoneg: naill ai "Ebruac" (enw personol) neu "Eburacon" (yr ywen). Benthyciwyd y gair hwn gan y Rhufeiniaid gan ei Ladineiddio'n "Eboracum" ac yna'n ddiweddarach gan y Llychlynwyr yn "Iorvik". Benthyciwyd ef yn ei ffurf bresennol, Saesneg 'York' yn y 13g.[6]

Ceir llawer o enwau trefi, pentrefi, afonydd, bryniau ac ardaloedd eraill (Saesneg) sy'n tarddu o'r Frythoneg gan gynnwys yr enwau lleoedd : Cammock (cam), Craddock (Caradog), Crayke (craig), Ecclesfield (eglwys), Glaisdale (glas), Leeming (lemanio = llwyfen heddiw), Penistone (pen, allt), Rossington (rhos). Ceir hefyd nifer o afonydd o darddiad Brythoneg: Derwent (deren), Don (dan, yr un gwreiddyn a Dan-ube yn Ewrop), Dove (du), Esk (isca), Kyle (cul, cyfyng), Laver (llafar), Lune (llanw), Nidd (yr un gair a 'Nedd'), Rother (rhy+dwfr), Tame (tywyll), Tees (chwyrn) ac Ure (dŵr).


Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfnod y Celtiaid a'r Brythoniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu dwy garfan o Geltiaid yn byw yn Swydd Efrog: y Brigantes a'r Parisi, am filoedd o flynyddoedd cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Rheolai'r Brigantes fwy o diriogaeth nag unrhyw lwyth arall ar ynysoedd Prydain: Gogledd a Gorllewin Swydd Efrog erbyn heddiw, ac yn fwy na phosib, y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr. Yng Ngorllewin Swydd Efrog roedd y Parisi, Gâl a oedd, fwy na thebyg yr un pobl a'r rhai hynny oedd yn byw yn ardal Paris.[7] Ni ddiflanodd y bobl hyn dros nos pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, credir iddynt fyw yn gyfochrog â nhw. Ymhlith arweinyddion mwyaf nodedig Celtiaid Efrog mae Cartimandua a'i gŵr Venutius. Yn ôl rhai awduron Rhufeinig o'r cyfnod, y Brigantes oedd y rhyfelwyr mwyaf ffyrnig ynysoedd Prydain.[8]

Y term a ddefnyddir ar y Celt yng Nghyfnod hwyr y Rhufeiniaid, ac wedi hynny yw 'Brython', a chafwyd brwydrau enbyd yng Ngogledd Lloegr wedi crebachu'r gorsegyniad Rhufeinig - yn enwedig gan yr hyn a elwir heddiw'n 'Saeson'. Ymhlith y brwydrau pwysicaf y mae honno yn 577 pan ymosododd Urien Brenin Rheged ar Ynys Medgawdd (Lindisfarne) gan warchae ar Deoric brenin Brynaich. Ceir llawer o gerddi o'r adeg hon yn cofnodi'r brwydrau hyn: gweler Canu Taliesin. Yn 595 ymosododd Gwŷr y Gogledd ar Deifr, teyrnas a'i chanolbwynt yng Nghaer Efrog (Dinas Efrog, bellach) a sgwennodd Aneirinarwrgerdd am arwyr y frwydr hon, sef y Gododdin. Wedi Brwydr Catraeth, unwyd Brynaich a Deifr gan Æthelfrith (593-616), brenin cyntaf Northumbria. Yn yr hanner canrif a ddilynodd hynny, ymledodd ei deyrnas dros y rhan fwyaf o'r Hen Ogledd.

Rhufeiniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorchfygwyd y Brigantes gan y Rhufeiniaid dan arweiniad Quintus Petillius Cerialis, mewn brwydr bwysig yn 71 AD.[9] Sefydlwyd Dinas Efrog ('Eboracum') yn prifddinas Britannia Inferior ac yn gyd-Brifddinas Prydain gyfan, gyda Llundain.[10] Am ddwy flynedd, cyn marwolaeth yr Ymerawdwr Septimius Severus, gweinyddwyd Ymerodraeth Rhufain ganddo o Eboracum.[11]

Llychlynwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyrhaeddodd byddin o Llychlynwyr Danaidd ardal Deifr a Northumbria yn 866 AD.[12] Gorchfydwyd yr ardal a gwnaed Dinas Efrog, unwaith eto, yn brifddinas, a alwyd ganddynt yn Jórvík.[13]

Aeth y Llychlynwyr ymhellach na hyn, gan sicrhau eu gafael yn yr hyn a elwir heddiw yn Ddaenfro.[14]

Parhaoedd Brenhiniaeth Jórvík am gan mlynedd, a throsglwyddwyd yr awennau o ddwylo Danaidd Halfdan Ragnarsson, i ddwylo Norwyaidd Eric Bloodaxe yn niwedd y cyfnod hwn. Daeth Brenhiniaeth Wessex yn fwy a mwy grymys, ond gan adael llawer o ymreolaeth y Gogledd yn eu dwylo eu hunain gan gynnwys deddfu, a gan barchu nifer o draddodiadau Llychlynaidd.[15]

Rhyfel y Rhosynnau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhyfel y Rhosynnau

Pan dowlwyd Rhisiart III oddi ar orsedd Lloegr yn 1399, cynyddodd y gystadleuaeth a'r atgasedd rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid - dwy gangen o deulu'r Plantagenet. Brwydrodd y ddau deulu mewn cyfres o frwydrau a elwir heddiw yn Rhyfel y Rhosynnau, a ddaeth i ben yn Brwydr Maes Bosworth pan goronwyd Harri Tudur yn Harri VII. Efallai mai'r frwydr ffyrnicaf a gwaethaf o ran nifer y meirw oedd Brwydr Towton ac roedd Brwydr Wakefield yr un mor allweddol. Y brenin olaf o deulu'r Iorciaid ar orsedd Lloegr oedd Richard III. Drwy briodi un o'r Iorciaid, Elisabeth o Efrog, daeth y brwydro i ben. Hyd heddiw, ceir elfen o'r cystadlu hwn e.e. gelwir un gêm criced rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid (neu Swydd Efrog yn erbyn Swydd Gaerhirfryn!) yn "Gêm y Rhosynnau"; felly hefyd pan fo Manchester United yn chwarae yn erbyn Leeds, ceir "Rhyfel y Rhosynnau".

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn draddodiadol, ffiniau gogleddol Efrog oedd Afon Tees, ac yn y De: yr arfordir, aber yr Humber ac afonydd Don a Sheaf. Y ffin orllewinol yw llethrau'r Pennines, wrth iddynt gyfarfod ag Afon Tees. Ceir sawl sir yn ffinio gydag Efrog: Swydd Durham, Swydd Lincoln, Swydd Nottingham, Swydd Derby, Swydd Gaer, swydd Gaerhirfryn a'r sir draddodiadol Westmorland.

Ceir perthynas agor rhwng ardaloedd topograffig, daearegol a'r cyfnod pan gawsant eu ffurfio. Ffurfiwyd cadwen mynyddoedd y Pennines yn Oes y Glo (neu'r 'Oes Garbonifferaidd'); Permo-Triasig yw'r dyffryn sy'n gorwedd yng nghanol Efrog a Chretasaidd yw'r ucheldir calchog.

Llifa'r afonydd canlynol drwy Efrog ac i'r môr: Oose, gyda Swale yn gangen ogleddol iddi (Swaledale), afon Ure, Wharfe, Aire, Calder, Don, Esk, Hull a Derwent - mae llawer o'r rhain yn enwau Brythoneg, prawf pellach y bu'r Brythoniaid unwaith yn byw yma.

Mannau naturiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llysenw rhanbarth Efrog yw "God's Own County".[1][16][17]

Mae'r mannau naturiol, agored hyn yn cynnwys Rhostiroedd Gogledd Efrog a'r Yorkshire Dales, dau Barc Cenedlaethol sy'n rhan o Barc Cenedlaethol y Peak District. Dynodwyd Nidderdale a Bryniau Howardian yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.[18] Dynodwyd safleoedd arfordirol Spurn Point, Flamborough Head a Gogledd Rhostiroedd Efrog hefyd fel tri Arfordir Treftadaeth.[19][20]

Prif Drefi[golygu | golygu cod y dudalen]


Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Datganoli[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers tua 2006 mae'r symudiad dros lywodraeth ranbarthol, neu ryw elfen o hunanlywodraeth i Swydd Efrog wedi tyfu; mae un blaid wleidyddol, y Yorkshire Party, yn cynrychioli'r symudiad i adfer y ffiniau traddodiadol (ers ad-drefnu, 1974) ac i ffurfio senedd Gwlad Efrog[21]. Ond nid yw'r syniadau hyn yn newydd.

Yn ystod tymor y Prif Weinidog William Pitt (1759 – 1806) codwyd y posibilrwydd o roi statws hunanlywodraeth i Swydd Efrog, yn dilyn trafodaethau ar sofraniaeth Iwerddon. Codwyd y mater eto gan Winifred Ewing (SNP) ac yna gan Richard Wainwright, AS dros Colne Valley a ddywedodd ar lawr yTŷ Cyffredin: Independence in Yorkshire expresses itself in a markedly increasing determination to establish self-reliance.[22]

Ar ddechrau'r 20g mynnodd yr Athro F. W. Moorman fod yr Ioriaid yn bobl dra gwahanol i'r Saeson; datblygwyd ei syniadau ymhellach gan Herbert Read a nododd fod Swydd Efrog wedi'i hynysu oddi wrth gweddill Lloegr gan gorsydd, ac iddi ddatblygu ar wahân iddi. Mynnodd: There is something characteristic about the very physiognomy of the Yorkshireman. He is much more of a Dane or a Viking than a Saxon.[23]

Yn 1998 sefydlwyd The Campaign for Yorkshire i fynnu Cynulliad rhanbarthol fel yr Alban a Chymru,[24] a elwir weithiau'n Yorkshire Parliament.[25] Noda'r mudiad mai ei amcanion yw:

Yorkshire and the Humber has distinctive characteristics which make it an ideal test bed for further reform. It has a strong popular identity. The region follows closely the historic boundaries of the three Ridings, and there is no serious debate about boundaries. It possesses strong existing regional partnerships including universities, voluntary and church associations. All this makes it realistic to regard Yorkshire and the Humber as the standard bearer for representative regional government.[26]

Teithio[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn hanesyddol, y brif wythien sy'n cludo cerbydau i Swydd Efrog yw'r Great North Road, sef yr A1, a daw'r A19 o Doncaster.[27] Daw'r M62 o gyfeiriad Manceinion a Lerpwl,[28] a thraffordd yr M1 o Dde Lloegr.

Maes Awyr Dwyrain Canolbarth Lloegr neu East Midlands Airport sy'n gwasanaethu anghenion teithio awyr yr ardal, yn bennaf ond ceir hefyd y Leeds Bradford International Airport sydd wedi datblygu cryn dipyn ers 1996. Mae Doncaster Sheffield Airport, Finningley a arferid ei alw'n Robin Hood Airport Doncaster Sheffield yn gwasanaethu de Efrog.[29]

Agorwyd Maes Awyr Sheffield yn 1997 ond caewyd ef yn Ebrill 2008.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Allen, Liam (1 August 2006). "What's so special about Yorkshire?". BBC. http://news.bbc.co.uk/1/hi/magazine/5234444.stm. Adalwyd 15 July 2008.
  2. Benjamin, Alison; Wainwright, Martin (20 October 2007). "And the winner of the award for the greenest city in Britain is ... Bradford". Llundain: Guardian Unlimited. https://www.theguardian.com/environment/2007/oct/20/communities?gusrc=rss&feed=networkfront. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  3. "Yorkshire (United Kingdom)". CRWFlags.nom. http://www.crwflags.com/fotw/flags/gb-en-ys.html. Adalwyd 25 Hydref 2007.
  4. Wainwright, Martin (29 Gorffennaf 2008). "Proud Yorkshire can finally fly white rose flag without charge". The Guardian (London). https://www.theguardian.com/uk/2008/jul/29/britishidentity. Adalwyd 29 Gorffennaf 2008.
  5. "Yorkshire Day". Army.mod.uk. 18 February 2008. http://www2.army.mod.uk/yorkshire_regiment/regiment/history/battle_honours/yorkshire_day.htm. Adalwyd 3 October 2008.
  6. yorkshiredialect.com; adalwyd 13 Chwefror 2017.
  7. "The Parisii". Roman-Britain.org. http://www.roman-britain.org/tribes/parisi.htm. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  8. "Romans In Britain". Romans-In-Britain.org.uk. http://www.romans-in-britain.org.uk/his_brigantian_uprising.htm. Adalwyd 25 October 2007.
  9. "The Brigantes". House Shadow Drake. http://www.shadowdrake.com/brigit5.html. Adalwyd 25 Hydref 2007.
  10. "Lower (Britannia Inferior) and Upper Britain (Britannia Superior)". VanderBilt.edu. http://www.vanderbilt.edu/AnS/Classics/roman_provinces/britain/image21.htm. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  11. "Roman York - a brief introduction to York's Roman History". York Roman Festival. Archifwyd o y gwreiddiol ar 8 Hydref 2007. https://web.archive.org/web/20071008234045/http://www.yorkromanfestival.com/history.htm. Adalwyd 25 October 2007.
  12. "What Happened to Them?". Jorvik-Viking-Centre.co.uk. Archifwyd o y gwreiddiol ar 12 Hydref 2007. https://web.archive.org/web/20071012204846/http://www.jorvik-viking-centre.co.uk/vikings4.htm. Adalwyd 25 Hydref 2007.
  13. "The Viking Kingdom of York". Viking.no. 15 Ebrill 2000. http://www.viking.no/e/england/york/kingdom_of_york_m.html. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  14. "Narrative History of York: Viking Times". Britannia.com. http://www.britannia.com/history/york/yorkhist4.html. Adalwyd 25 Hydref 2007.
  15. "Narrative History of York: Late Saxon Times". Britannia.com. http://www.britannia.com/history/york/yorkhist5.html. Adalwyd 25 Hydref 2007.
  16. "God's own Country". London: Guardian Unlimited. 2 Mehefin 2006. https://www.theguardian.com/travel/2006/jun/02/travelnews.shortbreaks.unitedkingdom. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  17. "The Olympics are just what we need to bring Yorkshiremen together as a nation". The Telegraph. http://www.telegraph.co.uk/comment/columnists/nigelfarndale/9468597/The-Olympics-are-just-what-we-need-to-bring-Yorkshiremen-together-as-a-nation.html. Adalwyd 20 April 2016.
  18. "Areas of Outstanding Natural Beauty". Natural England. http://www.countryside.gov.uk/LAR/Landscape/DL/aonbs/. Adalwyd 3 Mai 2008.
  19. "Heritage Coasts". Natural England. http://www.countryside.gov.uk/LAR/Landscape/DL/heritage_coasts/index.asp. Adalwyd 3 Mai 2008.
  20. "Yorkshire and Humberside: the North East". BritainGallery. http://www.britaingallery.com/england_yorkshire_and_humberside.php. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  21. http://www.yorkshireparty.org.uk/about
  22. Hansard Parliamentary Papers, HC Deb, 18 Rhagfyr 1975, vol. 902, cc1832-52
  23. Read, Herbert (31 January 1929). "Review of Frederic Richard Pearson, Yorkshire". The Times Literary Supplement: p. 79.
  24. Hazell, Robert (2000). The State and the Nations: The First Year of Devolution in the United Kingdom. London: Imprint Academic. p. 118. 
  25. "Where there's muck". The Independent: p. 3. 18 March 1999.
  26. Campaign for Yorkshire literature, quoted in Robert Hazell, The State and the Nations: The First Year of Devolution in the United Kingdom (Llundain: Imprint Academic, 2000) t.140
  27. "Region: North East - Trunk Road A1 in the North Riding of Yorkshire". The Motorway Archive. http://www.iht.org/motorway/a1nrccintro.htm. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  28. "M62 Liverpool to Hull". Highways.gov.uk. http://www.highways.gov.uk/roads/2786.aspx. Adalwyd 24 Hydref 2007.
  29. "History of the Airport". RobinHoodAirport.com. http://www.robinhoodairport.com/page_history_of_the_airport_5.html. Adalwyd 24 Hydref 2007.