Swydd Clackmannan
Jump to navigation
Jump to search
Un o awdurdodau unedol yr Alban yw Swydd Clackmannan (Gaeleg yr Alban: Siorrachd Chlach Mhannainn; Saesneg: Clackmannanshire). Mae'n ffinio a Perth a Kinross, Stirling a Fife. Y ganolfan weinyddol yw Alloa.
Creuwyd ffiniau'r sir newydd yn 1996, fel olynydd uniongyrchol i hen ranbarth Clackmannan o awdurdod Central. Mae'r boblogaeth yn 49,000, y lleiaf o awdurdodau tir mawr yr Alban.
Trefi a phentrefi[golygu | golygu cod y dudalen]
- Alloa
- Alva
- Clackmannan
- Coalsnaughton
- Devonside
- Dollar
- Fishcross
- Glenochil
- Menstrie
- Muckhart
- Sauchie
- Tillicoultry
- Tullibody