Septimius Severus

Oddi ar Wicipedia
Septimius Severus
GanwydLucius Septimius Severus Edit this on Wikidata
11 Ebrill 146 Edit this on Wikidata
Leptis Magna Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 211 Edit this on Wikidata
Eboracum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol, ymerawdwr Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, quaestor, tribune of the plebs, Praetor, legatus, consul suffectus, seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadPublius Septimius Geta Edit this on Wikidata
MamFulvia Pia Edit this on Wikidata
PriodPaccia Marciana, Julia Domna Edit this on Wikidata
PlantSeptimia Major, Septimia Minor, Caracalla, Geta Edit this on Wikidata
LlinachSeveran dynasty Edit this on Wikidata

Lucius Septimius Severus Pertinax neu Septimius Severus (11 Ebrill 1464 Chwefror 211) oedd Ymerawdwr Rhufain o 9 Ebrill 193 hyd ei farwolaeth.

Ganed Septimius Severus yn Leptis Magna yn Libia, tua 1000 km i'r de-ddwyrain o ddinas Carthago yn nhalaith Affrica. Roedd o deulu pendefigaidd Ffenisiaidd. Yn ôl rhai haneswyr siaradai Ladin gydag acen.

Yn 172 penodwyd ef yn seneddwr, gan yr ymerawdwr Marcus Aurelius yn ôl pob tebyg. Yn 190 daeth yn gonswl, a'r flwyddyn wedyn penododd yr ymerawdwr Commodus ef i arwain y llengoedd yn Panonia. Wedi i'r ymerawdwr Pertinax gael ei lofruddio yn 193 cyhoeddodd y llengoedd hyn Severus yn ymerawdwr. Llwyddodd llengoedd Severus i feddiannu Rhufain heb wrthwynebiad. Yr un pryd yr oedd y llengoedd yn Syria wedi cyhoeddi Pescennius Niger yn ymerawdwr, a'r llengoedd ym Mhrydain wedi cyhoeddi Clodius Albinus fel ymerawdwr. Gwnaeth Severus gynghrair a Clodius Albinus i orchfygu Pescennius Niger, yna yn 197 cafodd wared ar Albinus hefyd a theyrnasu ar ei ben ei hun.

Roedd Severus yn filwr galluog, ac ymladdodd ryfel llwyddiannus yn erbyn y Parthiaid, gan ddychwelyd rhan ogleddol Mesopotamia i'r ymerodraeth. Nid oes ei berthynas a'r Senedd yn dda, a chafodd wared o ddwsinau o seneddwyr gan ei cyhuddo o fod yn llwgr. Penodwyd seneddwyr eraill oedd yn gefnogol iddo ef. Roedd yn fwy poblogaidd ymysg y bobl gyffredin, oedd yn falch o gael sefydlogrwydd ar ôl helyntion teyrnasiad Commodus.

Ym mlynyddoedd olaf Septimius Severus bu raid iddo ymladd yn erbyn y barbariaid oedd yn bygwth ffiniau'r ymerodraeth. Roedd problemau arbennig ym Mhrydain, ac atgyweiriodd Severus Fur Hadrian. Bu farw yn Efrog ar 4 Chwefror 211. Olynwyd ef gan ei feibion Geta a Caracalla, ond llofruddiwyd Geta gan ei frawd yn fuan wedyn.

Rhagflaenydd:
Didius Julianus
Ymerawdwr Rhufain
9 Ebrill 1934 Chwefror 211
gyda Clodius Albinus 193197
Caracalla 1984 Chwefror 211
Geta 2094 Chwefror 211
Olynydd:
Caracalla
Geta
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato