Commodus

Oddi ar Wicipedia
Commodus
GanwydLucius Aelius Aurelius Commodus Edit this on Wikidata
31 Awst 161 Edit this on Wikidata
Lanuvium Edit this on Wikidata
Bu farw31 Rhagfyr 192 Edit this on Wikidata
o strangling Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadMarcus Aurelius Edit this on Wikidata
MamFaustina yr Ieuengaf Edit this on Wikidata
PriodBruttia Crispina Edit this on Wikidata
PartnerMarcia Edit this on Wikidata
LlinachNerva–Antonine dynasty Edit this on Wikidata

Marcus Aurelius Commodus Antoninus neu Commodus (31 Awst 16131 Rhagfyr 192) oedd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Lucius Aelius Aurelius Commodus. Bu'n gyd-ymerawdwr gyda'i dad Marcus Aurelius o 177 i 17 Mawrth 180, ac ar ôl hynny bu'n unig ymeradwr hyd ei farwolaeth..

Cafodd ei eni yn Lanuvium, Latium. Roedd yn fab i Marcus Aurelius ac yr oedd ganddo efaill, Antoninus, a fu farw yn bedair oed, a chwaer, Galeria Lucilla. Gwnaeth ei dad ef yn gyd-ymerawdwr yn 177. Pan fu farw Marcus Aurelius yn 180, dilynodd Commodus ef ar yr orsedd. Ar y dechrau yr oedd yn boblogaidd, gan fod llawer o barch i'w dad, ond yn fuan gwelwyd fod Commodus yn fath gwahanol o ymerawdwr. Rhoddodd rym i ffrindiau llwgr, a chynorthwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Roedd yn arbennig o hoff o ymladdfeydd gladiator a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enw Hercules Romanus.

Yn 192 distrywiwyd rhan o ddinas Rhufain gan dân, a chymerodd Commodus y cyfle i gyhoeddi ei fod yn ei hail-sefydlu dan yr enw Colonia Commodiana. Ychydig yn ddiweddarach bu cynllwyn yn ei erbyn, a thagwyd ef tra'r oedd yn cysgu gan gaethwas o'r enw Narciso. Dilynwyd ef gan Pertinax. Ar ôl ei farw cyhoeddodd Senedd Rhufain y damnatio memoriae. Seilir y ffilm Gladiator (2000) yn rhannol ar fywyd Commodus.

Rhagflaenydd:
Marcus Aurelius
Ymerawdwr Rhufain
17731 Rhagfyr 192
Olynydd:
Pertinax
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato