Mur Hadrian

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o Fur Hadrian ger Greenhead.

Mae Mur Hadrian (Saesneg: Hadrian's Wall; Lladin: Vallum Hadriani) yn fur amddiffynnol a adeiladwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn yr hyn sy'n awr yn Lloegr. Am ran helaeth o'r cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain, Mur Hadrian oedd ffin ogleddol y dalaith Rufeinig, er bod mur arall, Mur Antoninus, ymhellach i'r gogledd yn yr Alban.

Roedd y mur tua 80 milltir Rufeinig (117 km) o hyd, yn ymestyn o Segedunum yn Wallsend ar Afon Tyne yn y dwyrain i'r Solway Firth yn y gorllewin. Mae'r mur i gyd yn Lloegr; mae tua 15 km i'r de o'r ffin gyda'r Alban yn y gorllewin, a 110 km o'r ffin yn y dwyrain. I'r dwyrain o Afon Irthing mae wedi ei hadeiladu o gerrig, 5 - 6 medr o uchder a 3 medr o drwch. I'r gorllewin o'r afon roedd y mur wedi ei adeiladu o dywyrch, 3.5 medr o uchder a 6 medr o drwch.

Adeiladwyd y mur yn dilyn ymweliad yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian â Phrydain yn 122 OC. Credir i'r gwaith adeiladu gymeryd 8 mlynedd, gyda milwyr o bob un o'r tair lleng oedd ym Mhrydain ar y pryd yn cynorthwyo. Roedd y mur yn rhan o weithiau amddiffynnol ehangach a oedd yn cynnwys ffosydd cyfochrog.

Map yn dangos lleoliad Mur Hadrian.


Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato