Pescennius Niger

Oddi ar Wicipedia
Pescennius Niger
Ganwydc. 135 Edit this on Wikidata
Aquino Edit this on Wikidata
Bu farw194 Edit this on Wikidata
o pendoriad Edit this on Wikidata
Antiochia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, legatus Augusti pro praetore Edit this on Wikidata
TadAnnius Fuscus Edit this on Wikidata
MamLampridia Edit this on Wikidata
PriodUnknown Edit this on Wikidata
PlantUnknown Edit this on Wikidata

Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Gaius Pescennius Niger (tua 140194). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.

Ganed ef yn yr Eidal, efallai yn Aquinum. Cofnodir ef fel aelod o'r ordo equester yn ystod teytnasiad yn ymerawdwr commodus (180192), pan benodwyd ef yn consul suffectus. Bu'm ymladd ar ffîn yr ymerodreath yn Dacia, a rhwng 191 a 193 bu'n llywodraethwr Syria.

Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Clodius Albinus ym Mhrydain, Septimius Severus yn Pannonia a Pescennius Niger yn Syria.

Gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, ceisiodd ffoi ar draws afon Ewffrates i deyrnas Vologaeses, brenin Parthia, ond llofruddiwyd ef cyn iddo fedru croesi.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato