Sir Forgannwg
Jump to navigation
Jump to search
Roedd Sir Forgannwg (Saesneg: Glamorgan) yn un o 13 o siroedd Cymru cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Cyfatebai'n fras i diriogaeth Teyrnas Morgannwg.
Roedd yn ffinio ar Sir Frycheiniog yn y gogledd, ar Sir Fynwy yn y dwyrain, ar Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin, a Môr Hafren ydyw'r terfyn deheuol. Roedd ei harwynebedd yn 2100 km², a'i phoblogaeth uchaf tua 1,220,000. Craig y Llyn ydyw'r pwynt uchaf (600m) yn yr ardal.
|