Dyfed
Gwedd
| Math | siroedd cadwedig Cymru, cyn endid gweinyddol tiriogaethol |
|---|---|
| Prifddinas | Caerfyrddin |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Yn ffinio gyda | Gwynedd, Powys, Gorllewin Morgannwg |
| Cyfesurynnau | 51.94°N 4.51°W |
![]() | |


- Mae'r erthygl yma yn ymdrin â'r sir oedd mewn bodolaeth rhwng 1976 a 1996. Am deyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol cynnar, gweler Teyrnas Dyfed. Gweler hefyd Dyfed (gwahaniaethu).
Daeth Dyfed yn sir yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol yn 1976, ac felly yn uned llywodraeth leol, yng ngorllewin Cymru, rhwng 1976 a 1996. Roedd yn cynnwys tair o'r hen siroedd: Sir Benfro, Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ac fe'i rhennid yn chwe dosbarth, sef Ceredigion, Caerfyrddin, Dinefwr, Llanelli, Preseli Penfro a De Sir Benfro. Pencadlys y cyngor sir oedd Caerfyrddin.
Yn 1996, dan ad-drefniant arall, adferwyd y siroedd blaenorol a pheidiwyd a defnyddio'r enw Dyfed mewn llywodraeth leol. Mae Dyfed yn dal i fodoli fel sir cadwedig.

| |||||||||||||
