Teyrnas Dyfed
Gwedd
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Roedd teyrnas Dyfed yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei thiriogaeth yn cyfateb yn fras i Sir Benfro heddiw.
Lleolir rhan helaeth dwy o Bedair Cainc y Mabinogi, sef Pwyll Pendefig Dyfed a Manawydan fab Llŷr, yn Nyfed. Arberth yw prif lys Pwyll yn y chwedl.
Cantrefi a chymydau Dyfed
[golygu | golygu cod]- Cantref Cemais
- Cantref Pebidiog
- Cantref Rhos
- Cantref Daugleddau
- Cantref Penfro
- Cantref Gwarthaf
- Emlyn
Brenhinoedd Dyfed
[golygu | golygu cod]- Anwn ap Macsen (-394?)
- Ednyfed ap Anwn
- Clotri ap Ednyfed? (-421?)
- Gwledyr ferch Clotri gwraig Triffyn Farfog o Gwyddelig
- Aircol Lawhir ap Triffyn (-515/527?)
- Gwrthefyr ap Aircol (-538/546?)
- Cyngar ap Gwrthefyr (-570?)
- Pedr ap Cyngar (-590?)
- Arthwyr ap Pedr (598-615)
- Nowy Hen ap Arthwyr (615-650)
- Gwlyddien ap Nowy Hen (650-670)
- Caten ap Gwlyddien (670-690)
- Cadwgan Tredylig ap Caten (690-710)
- Rhain ap Cadwgan (710-730)
- Tewdos ap Rhain (730-760)
- Maredydd ap Tewdos (760-797)
- Rhain ap Maredydd (797-808)
- Triffyn ap Rhein (808-814)
- Owain ap Maredydd (809-811)
Tangwystl ferch Owain gwraig Bledrig Aillt
- Iddon/Tewdr ap Triffyn (-872/876?)
- Hyfaidd ap Bledrig (872-893)
- Llywarch ap Hyfaidd (893-904)
- Rhodri ap Hyfaidd (904-905)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
|