Edeirnion

Oddi ar Wicipedia
Edeirnion
Mathardal hanesyddol, cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaPenllyn, Dinmael, Dyffryn Clwyd (cantref), Iâl Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.947°N 3.417°W Edit this on Wikidata
Map
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Cwmwd a bro yng ngogledd Cymru a fu'n rhan o Bowys ac wedyn o Wynedd yn yr Oesoedd Canol yw Edeirnion (ceir y ffurf hynafiaethol Edeyrnion weithiau hefyd). Yn ôl traddodiad fe sefydlwyd gan Edern, un o feibion Cunedda, a roddodd iddo ei enw.

Lleoliad Edeirnion ar fap braslun o brif israniadau Powys

Ffiniai'r cwmwd â chantref Penllyn ac arglwyddiaeth Dinmael i'r gorllewin, cymydau Colion a Llannerch (cantref Dyffryn Clwyd) a Iâl i'r gogledd, cymydau Nanheudwy a Cynllaith (Swydd y Waun) i'r dwyrain, a chantref Mochnant i'r de.

Dominyddir yr ardal gan Ddyffryn Edeirnion ac Afon Dyfrdwy. Yma y ceid y tir ffwrythlonaf, rhwng y bryniau i'r gogledd, i gyfeiriad Dinmael, a mynyddoedd Y Berwyn i'r de. Corwen oedd canolfan bwysicaf y cwmwd.

Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu Edeirnion yn rhan o deyrnas Powys, ond daeth i feddiant Gwynedd ar ddechrau'r 13g. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd a grewyd mewn canlyniad i Statud Rhuddlan yn 1282. Roedd yn un o gadarnleoedd Owain Glyndŵr ar ddechrau'r 15g. Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o diriogaeth yr hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych.

Cofnodir y plwyfi canlynol yn yr ardal yn 1293:[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Keith Williams-Jones (gol.), The Merioneth Lay Subsidy Roll 1292-3 (Caerdydd, 1976), tud. lxxix.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.