Teyrnas Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Teyrnas Ceredigion

Yr oedd Teyrnas Ceredigion yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i'r sir bresennol, Ceredigion.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad sefydlwyd teyrnas Ceredigion gan Ceredig (Ceretic), un o wyth fab Cunedda Wledig a ddaeth i ogledd Cymru o'r Hen Ogledd yn hanner cyntaf y 4g a sefydlu teyrnas Gwynedd.

Ar ddechrau'r 8g rheolai'r brenin Seisyll ap Clydog yng Ngheredigion. Tua'r flwyddyn 730 ychwanegodd Ystrad Tywi i'r deyrnas; Seisyllwg oedd enw'r deyrnas estynedig newydd.

Cofnodir marwolaeth Arthen, brenin Ceredigion yn yr Annales Cambriae am 807, ynghyd â diffyg ar yr haul.

Ar farwolaeth Gwgon ap Meurig yn 871 dirywio fu hanes y deyrnas. Mae'r Annales Cambriae yn cofnodi anrheithio Ceredigion ac Ystrad Tywi gan Anarawd a llu o Eingl yn 894. Erbyn hanner cyntaf y 10g roedd hi'n rhan o Ddeheubarth dan reolaeth Hywel Dda.

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Traddodiadau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei bennod ar Ryfeddodau Prydain yn ei lyfr Historia Brittonum mae Nennius yn sôn am fynydd o'r enw Crug Mawr gyda bedd (carnedd efallai) ar ei gopa a gyflawnai wyrthiau.

Brenhinoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cantrefi a chymydau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J. E. Lloyd, A History of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 3ydd arg. 1937)
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.