Rhos
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
- Am y cantref yn Sir Benfro, gweler Rhos. Gweler hefyd Rhos (gwahaniaethu)
Cantref yn Y Berfeddwlad yng ngogledd Cymru oedd Rhos (gorllewin Sir Ddinbych a dwyrain sir Conwy heddiw). Ymddengys yn bosibl fod Rhos yn un o fân deyrnasoedd Cymru yn y cyfnod ôl-Rufeinig a ddaeth yn rhan o deyrnas Gwynedd.
Teyrnas Rhos
[golygu | golygu cod]Yn ôl rhai o restrau achau Brenhinoedd a Thywysogion Cymru, sy'n rhestru tri ar ddeg o'i brenhinoedd, roedd Rhos yn deyrnas yn y cyfnod ôl-Rufeinig.
Ymhlith y brenhinoedd hynny roedd Cynlas ('Cynlas Goch'; Lladin Cuneglas), fab Owain Ddanwyn, y cyfeirir ato gan y mynach Gildas yn y 6g. Yn ôl Gildas, roedd Cynlas yn teyrnasu yn gysylltiedig â rhyw receptaculi ursi ('ffau'r arth'), ac mae rhai ymchwilyr yn meddwl mai Dinerth, enw'r fryngaer ar ben Bryn Euryn yn Llandrillo-yn-Rhos, oedd 'ffau'r arth'. Ceir Llys Euryn, a fu ym meddiant Ednyfed Fychan ar ddechrau'r 13g, wrth waelod y bryn. Ceir Ffordd Dinerth a Neuadd Dinarth gerllaw hefyd.
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cloddio rhan o'r safle. Darganfuwyd olion mur amddiffynnol sylweddol gyda wyneb o flociau calchfaen mawr a fyddai tua 10 troedfedd o uchder a lled o 11 troedfedd yn wreiddiol.
Ond nid yw pawb yn cytuno y bu Rhos yn deyrnas annibynnol fel y cyfryw ac mae ein gwybodaeth yn brin am ei hanes yn y cyfnod cynnar. Cysylltir y brenin Maelgwn Gwynedd â Rhos hefyd, ond mae traddodiad yn awgrymu mai safle Castell Degannwy oedd ei gadarnle; fe'i cofir fel brenin Gwynedd/Gogledd Cymru yn hytrach na brenin Rhos.
Brenhinoedd
[golygu | golygu cod]- Owain Ddanwyn ap Einion (-517)
- Cynlas ap Owain (571-520/540?)
- Maig ap Cynlas (547?-?)
- Cyngen ap Maig
- Cadwal Cryshalog ap Cyngen (?-613)
- Idgwyn ap Cadwal (613-633?)
- Einion ap Ifgwyn
- Rhufon ap Einion
- Hywel ap Rhufon
- Meirion ap Hywel
- Caradog ap Meirion (?-798)
- Hywel ap Caradog? (798-825)
Cantref Rhos
[golygu | golygu cod]Yn y gogledd roedd y cantref yn wynebu Môr Iwerddon, yn y gorllewin ei ffin oedd bryniau dwyreiniol Dyffryn Conwy uwchlaw Afon Conwy a chantref Arllechwedd, yn y de ffiniai â chantref Rhufoniog ac yn y dwyrain â chantref Tegeingl gydag afonydd Elwy a Chlwyd yn ffin naturiol.
Rhennid y cantref yn dri chwmwd. Roedd Afon Dulas yn dynodi'r ffin rhwng dau ohonyn nhw a elwid yn gymydau Is Dulas ac Uwch Dulas oherwydd hynny. Yn y gogledd-orllewin yr oedd cwmwd y Creuddyn (ardal Llandudno a'r cylch heddiw) a oedd yn cael ei drin fel rhan o Wynedd ei hun ac a unwyd ag Arllechwedd, Arfon, Llŷn ac Eifionydd yn 1284 i greu Sir Gaernarfon.
Castell Degannwy oedd sedd y llys brenhinol a cheid safleoedd eglwysig pwysig yn Abergele a Llandrillo-yn-Rhos.
Eirias
[golygu | golygu cod]Ardal o fewn Rhos oedd Eirias (neu Eiryoes). Ychydig a wyddys amdano gyda sicrwydd ond ymddengys ei bod yn ardal weinyddol o bwys strategol uchel o fewn cantref Rhos. Mae'n cyfateb yn fras i ardal tref Bae Colwyn yn Sir Conwy heddiw. Roedd ganddo rhaglaw a rhingyll - swyddogion cantrefi fel rheol - sy'n awgrymu statws arbennig. Credir mai pwys strategol yr ardal, sy'n rheoli'r mynediad ar hyd arfordir gogledd Cymru o'r dwyrain, llwybr arferol unrhyw oresgynwr, sy'n gyfrifol am hynny. Mae'n bosibl felly fod hanes Eirias fel uned yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar yn hanes teyrnas Gwynedd. Goroesodd fel allglofan o'r Sir Gaernarfon newydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
|