Caradog ap Meirion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caradog ap Meirion
Ganwyd 0730 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw 0798 Edit this on Wikidata (68 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata

Roedd Caradog ap Meirion (730? - 798?) yn frenin Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Credir iddo ddilyn ei gefnder Rhodri Molwynog ap Idwal ar yr orsedd tua 754. Dywedir ei fod yn ddisgynydd Owain Danwyn mab Einion Yrth ap Cunedda Wledig. Mae'r cyfnod yn un tywyll iawn yn hanes Gwynedd a'r dyddiadau yn ansicr.

Mae'n werth nodi mai yn ystod y cyfnod yma, yn 754, y perswadiodd Elfoddw, esgob Bangor yr eglwys Geltaidd yng Nghymru i ddilyn dull Eglwys Rufain o benderfynu ar ddyddiad y Pasg. Roedd hyn wedi bod yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy eglwys ers dros ganrif.

Yn ôl un traddodiad lladdwyd Caradog mewn brwydr yn erbyn byddin Mercia yn Eryri, ond yn ôl traddodiad arall cafodd ei lofruddio ar orchymyn Cynan Dindaethwy ap Rhodri, a ddaeth yn frenin yn ei le. Mae ansicrwydd ai Caradog ynteu Rhodri Molwynog oedd tad Hywel a ddilynodd Cynan ar yr orsedd.

O'i flaen :
Rhodri Molwynog ap Idwal
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cynan Dindaethwy ap Rhodri