Hywel ap Rhodri Molwynog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd Hywel ap Rhodri Molwynog (bu farw 825), a elwir weithiau yn Hywel Farf-fehinog ap Caradog, yn frenin Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywedir fod Hywel yn fab i Rhodri Molwynog ac yn frawd i Cynan Dindaethwy ap Rhodri. Cofnodir ymladd rhwng Cynan a Hywel am arglwyddiaeth ar Ynys Môn yn nechrau'r 9g. Bu Cynan farw yn 816 a theyrnasodd Hywel hyd ei farwolaeth yntau.

Yn ôl rhai ffynonellau roedd yn fab Caradog ap Meirion, a Chynan Dindaethwy yn gefnder iddo.

Pan fu farw yn 825 daeth llinach Cunedda Wledig i ben ar yr ochr wrywaidd. Dilynwyd ef gan Merfyn Frych ap Gwriad, gyda gwaed Cunedda yn cael ei drosglwyddo i'r llinell newydd trwy Ethyllt, merch ei frawd Cynan.

O'i flaen :
Cynan Dindaethwy ap Rhodri
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Merfyn Frych ap Gwriad